Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024

Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol?

Roedd ein Strategaeth Trawsnewid Digidol gyntaf ar gyfer 2017-2020 yn nodi blaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac roedd wedi sicrhau, pan ddechreuodd y pandemig, ein bod ni fel awdurdod mewn sefyllfa gref iawn. Mae'r Strategaeth Trawsnewid Digidol hon ar gyfer 2021-2024 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf wrth i ni amlinellu’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Dangosodd ein dibyniaeth ar dechnoleg drwy gydol y pandemig i ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol pa mor eang yw technoleg ddigidol ar draws pob sector a sut y mae wedi'i hintegreiddio'n llawn mewn sawl agwedd ar ein bywydau. Mae angen Strategaeth Trawsnewid Digidol arloesol a chyffrous ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd profwyd y gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer y Cyngor.

Mae'r Cyngor, drwy'r tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC), yn parhau i hybu prosiectau newid gwasanaethau trawsnewidiol. Mae'r Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol wedi'i ad-drefnu i flaenoriaethu a monitro'r gwaith o gyflawni'r prosiectau allweddol a nodwyd yn y strategaeth hon ac mae'r holl ffrydiau gwaith perthnasol a sefydlir bellach yn adrodd i'r grŵp llywio hwn. Er mwyn gwireddu'n llawn y manteision y gall technoleg ddigidol eu cynnig a sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn ariannol gynaliadwy yn y dyfodol, byddwn yn parhau i gynyddu cwmpas ac, mewn rhai meysydd, gyflymder ein gwaith o ran technoleg ddigidol.

Mae trawsnewid digidol yn herio ac yn gwella sut y caiff pethau eu gwneud heddiw. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i groesawu newid a bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol a sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed yn y meysydd hyn dros y pedair blynedd diwethaf.

Rydym yn cydnabod bod gan ysgolion anghenion eithriadol o ran TGCh, ac i roi mwy o sylw i hyn, bydd Strategaeth Ysgolion Digidol ddiwygiedig yn cael ei datblygu sy'n cyd-fynd â Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru, Safonau Digidol Addysg a'r Grant HWB newydd. Bydd y strategaeth hon yn adlewyrchu'r ffyrdd newydd o weithio a nodwyd drwy'r pandemig a'r angen i wella'r model dysgu cyfunol mewn addysg.