Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Key priorities: Arloesi
Bydd atebion digidol arloesol yn galluogi mwy o gydweithio
Beth mae'n ei olygu?
- Rhannu gwybodaeth yn well gyda phartneriaid a sefydliadau eraill.
- Cynyddu rhannu llwyfannau meddalwedd a chaledwedd ar draws y rhanbarth.
- Defnyddio'r atebion digidol diweddaraf ac arloesol ar draws y cyngor i wella profiad cwsmeriaid ymhellach a symleiddio swyddogaethau cefn swyddfa.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Mae arloesi'n sail i 4 maes blaenoriaeth allweddol y strategaeth hon - 'Cyfranogi', 'Gweithlu', 'Cysylltedd' ac 'Arloesi'.
- Mae'n helpu i faethu cydlyniant mewn timau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i dimau sy'n wasgaredig gan fod timau cydlynol yn llawer mwy cynhyrchiol.
- Mae'n creu awyrgylch o fod yn agored gan fod staff yn cael mynediad i'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.
- Mae'n symleiddio'r ffordd yr ydym yn rhannu data gyda phartneriaid a sefydliadau eraill gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o un tîm sy'n gweithio ar amcanion cyffredin.
- Mae arloesi yn gatalydd ar gyfer galluogi adrannau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y dinesydd wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud.
Sut y byddwn yn sicrhau Arloesi Digidol?
- Byddwn yn sicrhau bod gan staff y dulliau cydweithio angenrheidiol i wella cynhyrchiant a llesiant.
- Byddwn yn diogelu preifatrwydd drwy reoli gwybodaeth yn effeithiol yn ogystal â sicrhau bod trefniadau rhannu data priodol ar waith gyda'r holl sefydliadau a phartneriaid.
- Byddwn yn manteisio'n llawn ar ffyrdd newydd o weithio a thechnolegau newydd, gan gynnwys atebion ffynhonnell agored.
- Byddwn yn hyblyg o ran ein lleoliadau ac yn creu amgylchedd sy'n meithrin cydweithio a chreadigrwydd.
- Byddwn yn datblygu atebion newydd gyda phartneriaid gan ddefnyddio technoleg ddigidol i integreiddio gwasanaethau ar draws ffiniau swyddogaethol a daearyddol fel eu bod yn rhannu gwybodaeth yn fwy effeithlon.
- Byddwn yn cydweithio'n rhanbarthol ac yn genedlaethol i gaffael meddalwedd a gwasanaethau ar gwmwl er mwyn sicrhau gwell gwerth am arian a mwy o amrywiaeth o atebion.
Key projects
-
2023
Canlyniadau Allweddol
Er mwyn galluogi staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu gwybodaeth yn ddiogel ac i helpu i ddarparu gwell gofal a chymorth i bobl ledled Sir Gaerfyrddin.
-
2024
Canlyniadau Allweddol
Cynorthwyo o ran symleiddio ac awtomeiddio prosesau i helpu i ysgogi rhagor o arbedion effeithlonrwydd ar draws swyddogaethau cefn swyddfa.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Technoleg i helpu i wella diogelwch a gwytnwch seiber.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Gwella gwasanaeth cwsmeriaid, cynhyrchiant cefn swyddfa ac arbedion effeithlonrwydd.
-
a
Parhau i hwyluso'r gwaith o fudo systemau etifeddol ar y safle i wasanaethau a reolir ar gwmwl a ddarperir gan werthwyr.
- Adnoddau Dynol/y Gyflogres
- Tai
- Refeniw a Budd-daliadau
- Atgyweiriadau Tai
- Priffyrdd
- Hawlenni Parcio i Breswylwyr
- Rheoli Mynediad i Gefn Gwlad
- Gwasanaethau Etholiadol
- Amgueddfeydd (Archifau)
Canlyniadau Allweddol
Darparu rhagor o wytnwch ar gyfer gwasanaethau a systemau; a chaniatáu mwy o fynediad at ddata i alluogi 'Gweithlu Symudol'.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Rhwydwaith arloesi agored i'r cyngor a'n partneriaid dreialu amrywiol achosion defnydd o ran y Rhyngrwyd Pethau a thrawsnewid gwasanaethau.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Prosiectau Prawf Cysyniad y gellir eu datblygu, eu profi a'u rhoi ar waith o bosibl ar draws y Sir a'r Rhanbarth.
-
a
Bydd Sir Gaerfyrddin yn darparu'r prosiectau canlynol o ran y Fargen Ddinesig:
- Clwstwr Digidol Creadigol - Yr Egin - trwy greu seilwaith newydd i ddenu mentrau bach a chanolig eu maint i gychwyn neu ehangu.
- Datblygiad Pentre Awel - drwy gyfuniad o ddatblygu busnesau, addysg, mentrau llesiant, ymchwil a datblygu a mentrau gofal iechyd.
- Byddwn hefyd yn darparu menter sgiliau a thalent ranbarthol ar ran Rhanbarth Bae Abertawe.
Canlyniadau Allweddol
Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir.
Cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd a'r trydydd sector i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ac i wella mynediad i wybodaeth, cyngor, gwasanaethau ataliol, a gwasanaethau argyfwng yn Sir Gaerfyrddin.