Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Key priorities: Cysylltedd
“Galluogi trigolion a busnesau yn y Sir i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella eu bywydau”
Beth mae'n ei olygu?
- Gweithio i helpu i sicrhau cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy i'n Dinasyddion a'n Cymunedau.
- Cefnogi busnesau i gystadlu yn yr economi ddigidol drwy gysylltedd symudol a band eang o'r radd flaenaf.
- Cydweithio â'r Llywodraeth, Diwydiant a Phartneriaid i sicrhau Cysylltedd Digidol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
- Helpu i ysgogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wasanaethau symudol a band eang cyflym ac ysgogi mabwysiadu'r gwasanaethau hyn.
- Sicrhau bod trigolion a busnesau yn manteisio i'r eithaf ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i wella eu bywydau.
- Galluogi busnesau i ddefnyddio cyfrifiadura cwmwl i gyflymu amser i werth, hybu mabwysiadu technolegau newydd, a chysylltu'r gwasanaethau a gynigir mewn amser real.
- Darparu Gwasanaethau Sector Cyhoeddus Digidol i'n Dinasyddion a'n busnesau drwy seilwaith cysylltedd o'r radd flaenaf.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Bydd Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i chysylltu'n llawn yn annog busnesau newydd i fuddsoddi yn y Sir, gan gefnogi'r economi leol a denu cyflogaeth gynaliadwy.
- Bydd Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i chysylltu'n llawn yn annog busnesau presennol i arloesi a manteisio ar gyfleoedd newydd.
- Sicrhau bod ein plant yn byw mewn cymunedau sydd wedi'u cysylltu'n ddigidol a bod y technolegau digidol diweddaraf ar gael iddynt er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd iddynt.
- Dylai pawb sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin allu cael mynediad i wasanaethau 'ar lein' y gellir eu defnyddio i wella eu 'hansawdd bywyd'.
Sut y byddwn yn sicrhau Cysylltedd Digidol?
- Byddwn yn creu amgylchedd agored a hyblyg ar gyfer arloesi digidol sy'n croesi ffiniau ac yn rhoi hwb i dwf economaidd ar gyfer y rhanbarth.
- Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe byddwn yn elwa o fewnfuddsoddi sylweddol i greu Sir Gaerfyrddin wirioneddol gysylltiedig.
- Byddwn yn buddsoddi yn ein cymunedau a'n pobl ifanc i sicrhau cymdogaethau cynaliadwy drwy wella mynediad i dechnoleg ddigidol mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf.
- Defnyddio ffyrdd o annog pobl ifanc i gyfathrebu â ni'n ddigidol ac annog cyflogadwyedd yn y sir.
- Byddwn yn datblygu gwell hyder a sgiliau digidol ymysg ein grwpiau agored i niwed a'r rhai dros 65 oed.
- Ein nod fydd cael cyllid i ddatblygu gweithgareddau digidol cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cyrraedd y rhai sy'n gallu elwa fwyaf o'r byd digidol’; ar draws busnesau, cymunedau a thrigolion.
Key projects
-
2022
Canlyniadau Allweddol
Galluogi mwy o gydweithio ar gyfer gweithlu'r sector cyhoeddus.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Cymunedau gwybodus sy'n deall effeithiau a manteision cymdeithasol ac economaidd cysylltedd da.
Cymunedau sy'n cael eu grymuso a'u cefnogi i fynd i'r afael â materion cysylltedd symudol a band eang gwael eu hunain.
-
2024
Canlyniadau Allweddol
Gwella cysylltedd ar gyfer adeiladau preswyl a busnes ledled Sir Gaerfyrddin.
Cynyddu cydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau ac adnoddau ar-lein.
Lleihau allgáu digidol.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Mwy o safleoedd gyda mynediad i gysylltedd digidol o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Gwell capasiti a chwmpas i ddarparu gwasanaethau digidol i bawb, ym mhobman.
Mwy o ddewis a chystadleuaeth i drigolion a busnesau o ran cysylltedd symudol.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Economi Ddigidol ffyniannus ar draws y Sir.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Mwy o gapasiti i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol o'r asedau hynny ac i'r asedau hynny.
Rhai o'r safleoedd busnes a phreswyl cyfagos yn cael ffeibr llawn ar unwaith fel "budd damweiniol" o'n gwaith.
Cynyddu dichonoldeb masnachol gwneud gwaith gosod ffibr llawn pellach i gymunedau a busnesau cyfagos.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Bod yn un o'r parciau busnes â chysylltiadau da sydd â'r cysylltedd cyflymaf yn y Deyrnas Unedig.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Un lleoliad i rannu adnoddau, cyfeirio, helpu a hysbysu.
Adnodd ar-lein ar y we sy'n rhannu ac yn hyrwyddo defnyddio astudiaethau achos o fanteision a defnydd Cysylltedd Digidol gan godi ymwybyddiaeth ynghylch pam mae gwell cysylltedd mor bwysig a sut y gellir ei ddefnyddio i helpu dinasyddion a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Cymunedau Gwledig â Gwell Cysylltiadau.
Cydraddoldeb Cymdeithasol a Digidol i gymunedau gwledig.