Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
7 Well-being Goals
Pwrpas cyffredinol y Ddeddf yw sicrhau bod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus ar gyfer gwella llesiant Cymru, yn ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Ddeddf wedi'i llunio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Yn ôl y gyfraith:
- Bod yn rhaid i ni ddatblygu'n gynaliadwy, gan wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yr egwyddor datblygu cynaliadwy yw: ‘... bod yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb effeithio ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.’
- Mae'n rhaid i ni ddangos defnydd o'r 5 ffordd o weithio: Tymor hir, integredig, cynhwysol, cydweithredol ac ataliol.
- Mae'n rhaid i ni weithio tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant cenedlaethol sydd yn y Ddeddf. Gyda'i gilydd, maent yn creu gweledigaeth a rennir y gall cyrff cyhoeddus weithio tuag ati.
Cymru oedd wlad gyntaf i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n darparu gweledigaeth a rennir y gall pob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag ati. Fel corff cyhoeddus mae'n ofynnol i ni, yn unol â'r Ddeddf, bennu a chyhoeddi Amcanion Llesiant sy'n sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint â phosibl i'r Amcanion Llesiant. Rydym wedi cynnwys yr Amcanion Llesiant hyn yn Strategaeth Gorfforaethol y cyngor.