Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Key priorities: Cyfranogiad
Galluogi dinasyddion i gael y gwasanaethau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar-lein"
Beth mae'n ei olygu?
- Darparu gwybodaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n hawdd eu defnyddio ar-lein i drigolion.
- Darparu mwy o fynediad digidol 24/7 i wasanaethau sy'n ddwyieithog ac yn hwylus i'r cwsmer.
- Darparu gwasanaeth digidol personol ac ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'u cynnwys yn y gwaith o gynllunio ein gwasanaethau a gwelliannau i'r gwasanaeth.
- Byddwn yn sicrhau ein bod yn apelio at holl ddemograffeg y sir ac yn cynnwys pawb; gan ganolbwyntio ar hygyrchedd a thechnoleg ddigidol i gefnogi anghenion defnyddwyr.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Bodloni gofynion cwsmeriaid ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol cwsmeriaid.
- Gwella ymgysylltu â chwsmeriaid gyda mynediad i wasanaethau a gwybodaeth wedi'i phersonoli.
- Gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg symudol, darparu mynediad i wasanaethau ar-lein pan fydd yn gyfleus i gwsmeriaid; ‘unrhyw bryd, unrhyw le’ 24/7.
Sut y byddwn yn sicrhau Cyfranogiad Digidol?
- Byddwn yn moderneiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ddefnyddio technoleg newydd ac arloesol i ddarparu gwasanaethau ar-lein.
- Byddwn yn parhau i wella gwefan y Cyngor gan sicrhau bod pob dyfais symudol yn cael mynediad llawn i wasanaethau'r Cyngor.
- Gwella'r ffordd yr ydym yn dylunio ac yn creu systemau TG gan roi anghenion a phrofiad y cwsmer wrth wraidd sut y bydd systemau newydd yn gweithredu ac yn gweithio.
- Byddwn yn datblygu gwell dealltwriaeth o'r sianeli digidol a ffefrir gan gwsmeriaid ar gyfer cyfathrebu â'r Cyngor.
- Byddwn yn sicrhau diogelwch gwybodaeth cadarn er mwyn diogelu ein data am ddinasyddion a busnesau rhag camddefnydd a bygythiadau seibr a diogelu hunaniaethau digidol.
- Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu hailddylunio a'u bod yn ddigidol yn ddiofyn; gan sicrhau eu bod yn bodloni ac yn rhagori ar ganllawiau a safonau presennol o ran hygyrchedd.
Key projects timeline
-
2021
Canlyniadau Allweddol:
Gall cwsmeriaid dderbyn eu biliau treth gyngor a gohebiaeth yn electronig ar-lein yn lle drwy'r post yn y modd traddodiadol; rheoli eu Debydau Uniongyrchol a gwneud cais am wahanol wasanaethau cysylltiedig.
-
a
Canlyniadau Allweddol :
Datblygu'r system Trefnu Apwyntiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ymhellach i gynnwys trefnu apwyntiad ar yr un diwrnod.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Darparu ystod ehangach o wasanaethau drwy'r system archebu ar-lein ar gyfer y parc.
-
2022
Canlyniadau Allweddol
Gall tenantiaid roi gwybod am atgyweiriadau a chadw cofnod ohonynt ar-lein 24/7 drwy 'Fy Nghyfrif Hwb'
-
2024
Canlyniadau Allweddol
Darparu mwy o wasanaethau ar-lein i gwsmeriaid.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Darparu gwasanaethau'r cyngor drwy dechnoleg arloesol i ategu'r gwasanaethau a ddarperir ar-lein drwy wefan y Cyngor a 'Fy Nghyfrif HWB'.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Cynyddu'r incwm a gynhyrchir ar draws ystod ehangach o wasanaethau'r cyngor a symud tuag at gyngor 'heb arian parod'.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Darparu atebion digidol a chysylltedd ar gyfer datblygu a gweithredu'r gwahanol wasanaethau ym Mhentywyn yn barhaus.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Darparu gwasanaethau'r cyngor drwy un pwynt mynediad personol canolog sydd ar gael 24/7 ac sy'n hawdd ei ddefnyddio.