Cyllideb ysgolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/11/2023

Mae’n ofyniad o dan Reoliadau’r Cynulliad bod pob Llywodraeth Addysg Leol yn cyhoeddi’n flynyddol ar eu gwefannau Datganiadau Adran 52 sy’n mynegi:

  • yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion (gan gynnwys grantiau) yn ystod y flwyddyn ariannol
  • faint mae’r ysgolion wedi gwario
  • faint o incwm (gan gynnwys grantiau) mae ysgolion wedi’u derbyn
  • a’r gwargedion yn cario drosodd o un cyfnod ariannol i’r llall.

Mae’r datganiadau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae copïau’n cael eu dosbarthu i bob ysgol o fewn yr AAL, ac i’r prif lyfrgelloedd yn ogystal.

Adran 52 Datganiad o'r Gyllideb Fwriadol

Mae Datganiad Adran 52 o'r Gyllideb Fwriadol yn cynnwys manylion am ddyraniadau cyllidebau pob ysgol o fewn yr Awdurdod Lleol, ynghyd a gwybodaeth sy'n dangos sut mae'r dyraniadau yma wedi'u gweithio.

Adran 52 Datganiadau o Wariant

Mae Datganiadau Adran 52 o Wariant yn cynnwys manylion o wariant ag incwm pob ysgol o fewn yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys gwargedion a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol ac a ddygwyd ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Addysg ac Ysgolion