Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/03/2024

Mae Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr mewn cydweithrediad â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn ymwneud â gweddnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r sir yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n bodloni'r angen heddiw a'r angen yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned.

Cyflawnir hyn drwy datblygu a gwella adeiladau, seilwaith a mannau sy'n cael eu gosod, eu dylunio, eu hadeiladu neu'u haddassu er mwyn meithrin datblygiad cynaliadwy pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Hyd yma, buddsoddwyd £325 miliwn yn adeiladau a chyfleusterau ein hysgolion ledled y sir. Mae hyn yn cynnwys pedair ar ddeg Ysgol Gynradd newydd, dwy Ysgol Uwchradd newydd, yn ogystal â gwaith ailwampio a helaethu mewn nifer o ysgolion arall. Mae mwy ar y ffordd hefyd - edrychwch ar ein tudalen “Ysgolion mewn Datblygiad” i weld ein prosiectau buddsoddi diweddaraf a diweddariadau cynnydd.

Addysg ac Ysgolion