Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed)

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/04/2024

Mynediad i Addysg Rhan-amser 3 oed

Mae gan blant hawl i dderbyn hyd at 10/12.5 awr o addysg yng Nghymru gan ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed. Gellir cael mynediad at oriau addysg mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy neu o fewn ysgolion 3-11 oed.

Mae lleoliadau addysg cymeradwy yn cynnig hyd at 10 awr o addysg mewn lleoliadau cymeradwy, er enghraifft:

  • Cylch Meithrin
  • Meithrinfeydd Dydd Preifat Cofrestredig

Addysg - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru)

Mae 42 o'r 94 o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin (3-11 oed yn unig) naill ai'n cynnig 10 neu 12.5 awr o addysg ran-amser.

Yn ogystal ag oriau addysg rhan-amser, gall rhieni cymwys sy'n gweithio plant 3 i 4 oed fod â hawl i gael mynediad at hyd at 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Cynnig Gofal Plant i Gymru - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru)

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am ragor o wybodaeth neu dilynwch y dolenni Addysg - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru). Cysylltwch â'ch ysgol leol a'ch darparwr gofal plant i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch wneud cais am le meithrin rhan-amser mewn ysgol 3-11 oed trwy'r dudalen hon yn unig. Ni fydd plant sy'n cael lle meithrin rhan-amser yn gallu parhau i addysg llawn amser a rhaid iddynt wneud cais ar wahân. Dyrannu neu bresenoldeb mewn lle rhan-amser mewn ysgol. Nid yw'n cael ei ystyried yn llawn amser.

Dim ond ar ôl i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym ni fod eich plentyn wedi cael ei dderbyn, a all eich plentyn ddechrau yn yr ysgol.

Gwybodaeth bwysig: Plant a aned cyn 1 Medi 2021

Gall plant a aned cyn 1 Medi 2021 gael hyd at 2 dymor o addysg mewn ysgol 3-11 oed.

Plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021

Bydd gan blant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021 hawl i hyd at 3 thymor o addysg ran-amser mewn ysgolion 3-11 oed o 1 Medi 2025, ac sy'n gymwys i ddechrau ysgol llawn amser yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed – rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer lle ysgol llawn amser.

Am fwy o wybodaeth am y newid i ddyddiadau dechrau addysg llawn amser cliciwch yma! (dolen i dudalen amser llawn Cynradd)

Gwybodaeth bwysig: Plant a aned cyn 1 Medi 2021

Gall plant a aned cyn 1 Medi 2021 gael hyd at 2 dymor o addysg mewn ysgol 3-11 oed.

Plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021

Bydd gan blant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021 hawl i hyd at 3 thymor o addysg ran-amser mewn ysgolion 3-11 oed o 1 Medi 2025, ac sy'n gymwys i ddechrau ysgol llawn amser yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed – rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer lle ysgol llawn amser.

Am fwy o wybodaeth am y newid i ddyddiadau dechrau addysg llawn amser cliciwch yma! (dolen i dudalen amser llawn Cynradd)

Os ydych wedi methu'r dyddiad cau, gallwch wneud cais hwyr o hyd, ond gall effeithio ar eich siawns o gael lle.

Darpariaeth

Ganwyd rhwng

Dyddiad dechrau'r ysgol

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais

Dyddiad hysbysu

Addysg feithrin ran-amser (3 oed)

1 Medi 2020 to 31 Awst 2021

Ionawr, Ebrill, Medi 2024

31 Gorffenaf 2023

Hydref 2023

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad *
  • E-bost y rhiant/gwarcheidwad **
  • Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
  • Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth

Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth drwy e-bost gyda chopi .pdf o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon drwy e-bost neu trwy lythyr. Os oedd eich cais o fewn y terfyn amser cewch eich hysbysu ym mis Hydref y flwyddyn cyn i’ch plentyn gychwyn e.e. Tymor yn cychwyn yn 2024 cewch eich hysbysu ym mis Hydref 2023.

Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle ac ni allwn warantu y bydd eich plentyn yn cychwyn ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn cymryd hyd at wyth wythnos.

Os cynigir lle ichi rhaid ichi gadarnhau eich bod yn derbyn y lle a gynigiwyd o fewn 14 diwrnod. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch. Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, rhaid ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.

Os gwrthodir lle meithrin i'ch plentyn ym mhob un o’r ysgolion rydych wedi’u dewis, nid oes hawl i apelio ac mi fydd yn rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych am i enw'ch plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Gallwch wneud cais hwyr am ysgolion eraill.

Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed)

Addysg ac Ysgolion