Problemau corfforol a/neu feddygol

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae rhai plant yn cael anhawster tymor hir (cronig) wrth symud, a achosir gan gyflwr corfforol, genetig neu feddygol. Mae symud yn rhan allweddol o ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a deallusol, felly bydd hyn yn effeithio ar allu plentyn i fod yn rhan o fywyd pob dydd yn yr ysgol. Bydd yn rhaid i’r plant hyn wneud mwy o ymdrech na phlant eraill.

Dyma rai cyflyrau cyffredin:

  • Parlys yr Ymennydd: Mae’n effeithio ar osgo a symudiad. Gall hyn amrywio o rywfaint o letchwithdod i gyflwr difrifol, sy’n effeithio ar y corff cyfan.
  • Dystroffi’r Cyhyrau Duchene: Gwendid yn y cyhyrau, sy’n effeithio ar fechgyn yn unig, ac sy’n gwaethygu wrth i blant fynd yn hŷn.
  • Spina bifida: Lle mae’r asgwrn cefn wedi’i niweidio. Gall yr effeithiau amrywio o rai ysgafn i ddifrifol. Bydd angen i’r plant ddefnyddio ffyn baglau neu gadair olwyn.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

Rhaid i ysgolion sicrhau bod plant yn cael eu cynnwys, a’u bod yn rhoi sylw i anghenion unigol plant.

Bydd gan blant sydd ag anghenion corfforol neu feddygol Gynllun Gofal, Cynllun Datblygu Unigol neu Ddatganiad o AAA. Mae angen i staff yr ysgol fod yn gyfarwydd â’r cynllun hwn a’i ddefnyddio wrth gynllunio.

Mae dyletswydd ar ysgolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau nad oes camwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.

Mae angen i ysgolion fod yn ymwybodol hefyd y gall unrhyw fwlio niweidio hunan-barch a hyder, a bod angen delio ag ef yn unol â pholisi’r ysgol ar fwlio.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol neu feddyg eu plentyn yn y lle cyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau am broblemau corfforol neu feddygol eu plentyn.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth:

Addysg ac Ysgolion