Sgiliau echddygol

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae plant yn datblygu sgiliau echddygol a chydlynu ar gyflymderau gwahanol. Wrth iddynt dyfu, bydd rhai plant yn cael anawsterau gyda symudiadau bach a mawr. Weithiau gelwir hyn yn Anhwylder Cydgysylltu Datblygiadol (neu D.C.D) neu Ddyspracsia. Gall hyn effeithio ar eu gallu i wneud pethau bob dydd, ac maent yn cael trafferth gyda sgiliau y gall eraill o’r un oedran eu gwneud yn hawdd. Pethau fel:

  • Cydbwyso, mewn Addysg Gorfforol
  • Gemau pêl
  • Rheoli pensil
  • Codi pethau
  • Defnyddio siswrn

Mae D.C.D yn effeithio ar fwy o fechgyn na merched. Gall orgyffwrdd â phethau eraill fel Dyslecsia. Gall wneud plant yn fwy blinedig na'u ffrindiau, gall effeithio ar dalu sylw a chanolbwyntio, a gall effeithio ar ryngweithio cymdeithasol. Gall effeithio ar drefniadaeth a gofal personol fel bwyta, gwisgo a mynd i'r tŷ bach. Mae'n aml yn gwneud plentyn yn rhwystredig a gall arwain at broblemau ymddygiad.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

Dylai ysgolion sylwi os yw plant yn cael anhawster gydag osgo, trefnu a dilyniannu gwaith neu ysgrifennu. Ar gyfer plant ag anawsterau D.C.D. gall athrawon:

  • Gwahaniaethu, drwy gynnig tasgau fel labelu neu daflenni gwaith llenwi bylchau
  • Cynnig ffyrdd amgen o gofnodi gwaith, gan gynnwys defnyddio TGCh
  • Cynnig gwahanol fathau o feiros, pensiliau neu afaelion pensil
  • Dweud cyfarwyddiadau ac esbonio tasgau fwy nag unwaith
  • Caniatáu amser i blant brosesu gwybodaeth
  • Defnyddio lliw a delweddau i dynnu sylw at bwyntiau allweddol neu wybodaeth bwysig
  • Defnyddio siarad i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth, gyda gweithgareddau fel
    • seddau poeth (siarad fel cymeriad)
    • cyflwyniadau bach
    • danfon un aelod i hel gwybodaeth a chyflwyno adroddiad i’r grŵp
    • trionglau gwrando (mewn tri, siaradwr yn rhoi barn neu wybodaeth, gwrandäwr yn gwrando'n ofalus, arsylwr yn gwneud nodiadau ac yn rhoi adborth i'r ddau)

Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am sgiliau cydlynu neu echddygol y dysgwyr.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Gall y wefan ganlynol fod yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth:

Addysg ac Ysgolion