TGAU Mathemateg i oedolion
TGAU Mathemateg-Rhifedd / TGAU Mathemateg. Bydd angen mynychu sesiwn wythnosol tri awr o hyd gyda thiwtor ac astudio yn ystod amser personol yn unol â chyfarwyddyd y tiwtor: gallwch wneud y cwrs hwn dros flwyddyn neu 2 flynedd, yn dibynnu ar eich anghenion personol.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu gan asesiad ffurfiannol parhaus gan diwtor a thrwy hunanfyfyrio. Dau bapur arholiad TGAU terfynol.
Mae hwn yn gwrs lefel ganolradd. Bydd angen ichi gwblhau asesiad cychwynnol gyda ni er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar eich cyfer - mae cymorth a chyngor yn rhan o'r broses. Yn ogystal mae angen ichi fod yn gallu mynychu'r sesiynau yn gyson a hefyd gwneud y gwaith angenrheidiol gartref - mae hwn yn gwrs cywasgedig iawn sy'n gofyn am ymrwymiad - yn enwedig y cwrs blwyddyn o hyd.
Bydd angen i chi brynu set Mathemateg TGAU (cwmpawd, cyfrifiannell wyddonol, protractor ac ati) a llyfr dysgwyr CBAC.
Ffi y cwrs yw £60 ar gyfer TGAU Mathemateg - Rhifedd (CBAC) (dau bapur arholiad) ac £30 ychwanegol os ydych chi eisiau sefyll arholiad TGAU Mathemateg (CBAC) fel arholiad ychwanegol (dau bapur arholiad).
Bellach mae dwy fersiwn o'r papur sef:
- TGAU Mathemateg - Rhifedd
- TGAU Mathemateg
Ewch i wefan CBAC i gael rhagor o wybodaeth am hyn TGAU.
Lleoliad | Diwrnod / Amser | Wythnosau |
Canolfan Ddysgu Rhydaman @ Streets | Dydd Iau, 13.00 – 15.00 | 31 wythnos - 1 flwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Rhydaman – Canolfan y Mynydd Du | Dydd Mercher, 18.00 – 20.00 | 31 wythnos - 1 flwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Canolfan Ddysgu Caerfyrddin | Dydd Iau, 16:15 - 18:15 | 31 wythnos - 1 flwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Canolfan Ddysgu Llanelli | I'w gadarnhau | I'w gadarnhau |
Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl. Ar ôl cofrestru, fel rheol ni roddir ad-daliad i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn parhau â'u hastudiaethau. Caiff ad-daliadau eu rhoi fel y gwelwn orau; bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi 'pro rata' a hynny'n ôl nifer y sesiynau a fynychwyd.
Dyddiadau tymor 2018/19 | Dechrau | Hanner tymor | Diwedd |
Hydref 2018 | 03 Medi | 29 Hydref - 02 Tachwedd | 21 Rhagfyr |
Gwanwyn 2019 | 07 Ionawr | 25 Chwefror - 01 Mawrth | 12 Ebrill |
Haf 2019 | 29 Ebrill | 27 Mai - 31 Mehefin | 19 Gorffennaf |
Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.
Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.
Addysg ac Ysgolion
Dysgu oedolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Cludiant Ysgol
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Cymorth i ddysgwyr
- Llais plentyn
- Partneriaeth â Rhieni
- Beth yw fy hawliau?
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaeth arbenigol
- Cynnydd
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Clybiau Ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion