Pwysigrwydd Presenoldeb

Pwysigrwydd Presenoldeb

Nid yw peidio â mynd i'r ysgol yn rheolaidd, a cholli diwrnod yma a thraw, yn ymddangos yn llawer, ond mae absenoldebau yn cronni. Mae dau ddiwrnod y mis yn hafal i bedair wythnos y flwyddyn, sy'n golygu colli dros flwyddyn o ddysgu rhwng Blwyddyn 1 a Blwyddyn 13.

Mae pob diwrnod ysgol yn cyfrif. Mae pob diwrnod a gollir yn ei gwneud hi'n anoddach dal i fyny, gall arwain at gyflawniadau is o ran darllen, ysgrifennu a rhifedd, ac mae'n effeithio ar allu plentyn i wneud cysylltiadau cymdeithasol pwysig.

Mae llawer o resymau pam y dylai plentyn fynd i'r ysgol, sef:

  • Dysgu
  • Datblygu hyder a hunan-barch
  • Deall cyfrifoldeb
  • Datblygu sgiliau newydd
  • Tyfu fel unigolion
  • Ennill cymwysterau
  • Gwneud ffrindiau newydd, cael hwyl a datblygu sgiliau bywyd
  • Datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill

Mae presenoldeb rhagorol yn yr ysgol yn caniatáu i blentyn gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Addysg ac Ysgolion