Prydau ysgol uwchradd

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Gaerfyrddin yn darparu gwasanaeth caffeteria i'r disgyblion mewn 12 o ysgolion uwchradd ar draws y sir, sy'n cynnig digon o ddewis o ran prydau a byrbrydau blasus i helpu eich plentyn i ymdopi â phrysurdeb ei ddiwrnod ysgol.

Mae ein holl fwydlenni'n cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a ddaeth yn ddeddfwriaeth ym mis Medi 2013. Mae'r bwyd rydym yn ei weini yn cael ei baratoi'n ffres ar y safle bob dydd gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd da. Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn cael prydau iach a maethlon ac y darperir hefyd ar gyfer disgyblion sydd â deiet arbennig.

Mae maeth ein bwydlenni'n cael ei ddadansoddi gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol ac mae'r bwydlenni'n werth yr arian. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth o brydau bargen am £2.80 sef yr un pris â'n lwfans Pryd Ysgol am Ddim. Hefyd drwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu ac yn hyrwyddo diwrnodau thema a chystadlaethau i annog disgyblion i roi cynnig ar brydau newydd.

Mae ein gwasanaeth caffeteria wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd drwy ddatblygu'r systemau arlwyo di-arian sydd ar waith mewn deg o'n hysgolion bellach. Mae'r systemau'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gan olygu nad oes yn rhaid i'r disgyblion gario arian gyda hwy drwy gydol y diwrnod ysgol.

Dyma rai o fanteision eraill y system:

  • Mae'r gwasanaeth yn gyflymach ac mae llai o aros mewn ciw
  • Mae'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn gallu eu cael heb dynnu sylw at hynny gan sicrhau bod mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant
  • Nid oes angen cario arian, gan atal arian rhag cael ei golli neu'i ddwyn
  • Drwy fonitro eu cyfrifon, mae'r disgyblion yn dysgu sgiliau pwysig ynghylch rheoli eu ffordd o fyw

Addysg ac Ysgolion