Saesneg/Cymraeg fel ail iaith

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/02/2024

Mae rhai plant yn siarad iaith heblaw Saesneg neu Gymraeg fel eu hiaith gyntaf, un ai oherwydd iddynt gael eu geni mewn gwlad arall neu oherwydd bod eu rhieni'n siarad iaith wahanol yn y cartref. Yn yr ysgol, maent yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith (neu drydedd iaith).

Maent yn dysgu'r iaith ychwanegol yn bennaf yn ystod y diwrnod ysgol arferol, drwy chwarae a chymdeithasu a thrwy ddysgu pynciau eraill. Yn ôl gwaith ymchwil, dyma'r ffordd orau o ddysgu iaith.

Mae bod yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad a dylid annog plant i ddefnyddio iaith eu cartref. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i fod yn rhugl mewn ail iaith. Mae plant yn dysgu iaith gymdeithasol yn gyntaf ac mae'n cymryd mwy o amser i ddysgu iaith academaidd. Fel dysgu unrhyw iaith, yr iaith lafar sy'n dod yn gyntaf a hynny cyn darllen ac ysgrifennu.

Mae cyflymder dysgu plant yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys:

  • Llythrennedd blaenorol yn yr iaith gyntaf
  • Oedran ar adeg dechrau dysgu ail iaith
  • Cefndir a chymorth teuluol
  • Gallu academaidd

Mae angen cymorth ar blant i ddatblygu eu sgiliau iaith.

Sut bydd yr ysgol yn helpu i ddatblygu sgiliau iaith Saesneg neu Gymraeg?

  • Sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel a chroesawgar
  • Siarad yn glir ar gyflymder arferol
  • Osgoi idiomau ac ymadroddion llafar
  • Dysgu drwy gyfryngau gweledol ac amlsynhwyraidd
  • Atgyfnerthu iaith lafar ac ysgrifenedig
  • Cynllunio gweithgareddau dysgu ar y cyd, lle mae plant yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a modelau Saesneg da.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol. Mae gan bob ysgol gydgysylltydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd yr ysgol yn cysylltu â'n Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig am gymorth.

Rheolwr y Gwasanaeth: Victoria Owens 01267 246755

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Addysg ac Ysgolion