Newidiadau i Ddyddiad Dechrau Addysg Llawn Amser

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/04/2024

Newidiadau i Ddyddiad Dechrau Addysg Llawn Amser

Yn dilyn yr ymgynghoriad, trafodwyd y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd gan Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ar 25 Mawrth 2024. Penderfynwyd dileu'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed a derbyn dysgwyr yn amser llawn i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Bydd y newid polisi hwn yn cael ei weithredu o Flwyddyn Academaidd 2025/26 gan yr holl Ysgolion Cymunedol, Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn y Sir.

Bydd y newid hwn yn effeithio ar blant a anwyd o 1 Medi 2021 ymlaen. Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r dyddiadau cychwyn ar gyfer disgyblion yn seiliedig ar eu dyddiad geni, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau derbyn a’r dyddiad hysbysiad o benderfyniad.

Ystod Dyddiad Geni'r Plentyn

Y Tymor Derbyn

Dyddiad Dechrau Disgwyliedig Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais Dyddiad hysbysiad o benderfyniad

1 Medi 2021 i

31 Rhagfyr 2021

Tymor y Gwanwyn 2026 Ionawr 2026

31 Ionawr 2025

16 Ebrill 2025

neu'r diwrnod gwaith nesaf

1 Ionawr 2022 i

31 Mawrth 2022

Tymor yr Haf 2026 Ebrill 2026

1 Ebrill 2022 i

31 Awst 2022

Tymor yr Hydref - 2026

 

Medi 2026

Effaith ar addysg ran-amser plant 3 oed mewn ysgolion 3 i 11

O dan y polisi presennol, mae plant yn derbyn hyd at 2 dymor o addysg ran-amser mewn ysgol 3 i 11. O dan y polisi newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, bydd plant yn derbyn hyd at 3 thymor o addysg ran amser mewn ysgol 3 i 11.

Bydd plant yn gorffen addysg ran amser ar ddiwedd y tymor pan fyddant yn troi'n 4 oed.

Rhaid i rieni gyflwyno cais ar wahân ar gyfer lle amser llawn mewn ysgol ar gyfer plentyn 4 oed erbyn 31 Ionawr 2025.

Llywodraethwyr a Phenaethiaid

Mae angen i chi ymgyfarwyddo â'r newid yn y Polisi Derbyn ar gyfer 2025/26 a'i rannu'n eang â staff a rhieni. Awgrymir eich bod yn diweddaru eich prosbectws, polisïau a gwefannau i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Rhieni

Bydd y tîm Derbyn i Ysgolion yn cysylltu â'r holl rieni sydd wedi cyflwyno ceisiadau eisoes ac y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt. Nid oes angen ailymgeisio os ydych eisoes wedi gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol. Bydd y tîm derbyniadau yn diweddaru'r dyddiad cychwyn yn awtomatig i adlewyrchu'r polisi newydd.

Y dyddiad cau i rieni gyflwyno cais am le amser llawn mewn ysgol sydd heb wneud cais eto yw 31 Ionawr 2025.

Rhaid cyflwyno cais ar wahân ar gyfer lle amser llawn a rhan amser mewn ysgol.

Mae'n bosibl y bydd rhieni sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at hyd at 30 awr o Addysg a Gofal Plant wedi'i ariannu drwy gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant cymwys 3 i 4 oed. Dilynwch y ddolen hon Gofal Plant - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru) am ragor o wybodaeth.

Darparwyr Meithrin a Gofal Plant

O fis Medi 2025, bydd y polisi newydd yn golygu y bydd oedi o ran plant yn dechrau'r ysgol yn amser llawn ac efallai y bydd angen i blant aros yn eich lleoliadau am dymor yn hirach, yn dibynnu ar ddewis rhieni/amgylchiadau teuluol plant unigol. A fyddech cystal â rhannu'r wybodaeth hon yn eang â rhieni. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru) os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch.

Awdurdodau Derbyn yn Sir Gaerfyrddin

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod gweithredu'r polisi newydd gydag Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

 

Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed)

Addysg ac Ysgolion