Sipsiwn a Theithwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2022

Mae Sipsiwn a Theithwyr yn grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwahanol grwpiau o Sipsiwn a Theithwyr, a gwahanol gefndiroedd hanesyddol, diwylliannau a thraddodiadau.

Mae plant o dreftadaeth Sipsiwn a Theithwyr weithiau angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol oherwydd:

  • Efallai y byddant yn absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn teithio gyda'u teuluoedd;
  • Efallai y bydd ganddynt agwedd wahanol at addysg ac ysgol, sy'n gallu arwain at ddiffyg presenoldeb a chyrhaeddiad;
  • Efallai y bydd ganddynt wahanol ddyheadau ar gyfer y dyfodol i'r rhan fwyaf o'u cyd-ddisgyblion;
  • Efallai y cânt eu bwlio;
  • Yn draddodiadol y mae eu deilliannau addysgol yn isel, ac mae hwn yn faes y mae angen ei wella.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

  • Dylai ysgolion fod yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn ystyriol o blant sy'n Sipsiwn a Theithwyr, ac o'u teuluoedd.
  • Os bydd plant yn absennol o'r ysgol oherwydd teithio, dylai'r ysgol gydgysylltu â'r teulu er mwyn trefnu gwaith i'r plant ei wneud tra byddant i ffwrdd.
  • Dylai'r ysgol fonitro cynnydd a gallai gynnig sesiynau ychwanegol ynghylch sgiliau sylfaenol.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau am eu plant. Gall yr ysgol gysylltu â'n Gwasanaeth Addysg Teithwyr i gael cymorth:

Sut rydym yn gweithio gyda theuluoedd

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda theuluoedd os yw eu plant ar gofrestr ysgol. Mae hyn yn cael ei drefnu yn ôl y galw, a rhoddir blaenoriaeth i'r plant â'r anghenion mwyaf yn gyntaf, er enghraifft disgyblion newydd i'r ardal. Gallwn gefnogi teuluoedd mewn perthynas ag addysg eu plentyn drwy:

  • mynd i gyfarfodydd yn yr ysgol gyda'r rhieni,
  • trafod gwybodaeth ysgrifenedig i sicrhau bod rhieni'n deall beth sy'n digwydd yn ysgol eu plentyn,
  • rhoi cymorth yn ymwneud ag ysgrifennu llythyrau a chwblhau ceisiadau am le mewn ysgol,
  • rhoi cymorth o ran trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd.

Addysg ac Ysgolion