Cronfeydd Ymddiriedolaethau Elusennol

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Mae nifer o gronfeydd ymddiriedolaethau elusennol y gallech chi neu'ch plentyn fod yn gymwys i wneud cais ar eu cyfer. Mae pob un yn cwmpasu gwahanol feysydd ac yn cynnwys gwahanol feini prawf.

Mae ceisiadau ar gyfer yr holl gronfeydd ymddiriedolaethau elusennol yn agor ar 1 Ebrill. Gellir dod o hyd i'r dyddiad cau ar bob cronfa'n unigol.

Math o grantiau:

Grant i helpu myfyrwyr drama.

Pwy sy'n gymwys:  

Pobl dan 25 oed sydd wedi mynychu unrhyw un o’r ysgolion uwchradd yn Llanelli ac sy’n astudio drama a chelfyddyd ddramatig ym Mhrifysgol Cymru neu unrhyw ysgol celfyddyd ddramatig a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

31ain Hydref

Math o grantiau:

  • Grantiau ariannol ar gyfer disgyblion sy’n trosglwyddo o Ysgol Rhys Prichard.
  • Grantiau i helpu myfyrwyr i ddilyn cwrs addysg bellach neu addysg uwch neu i ategu grantiau presennol y rhai sydd eisoes yn y coleg/prifysgol.
  • Cymorth i dalu am addysg, hyfforddiant, prentisiaeth neu offer i'r rhai sy'n cychwyn gweithio.
  • Mae cymorth ar gael hefyd i dalu am gost teithiau addysgol gartref neu dramor.

Pwy sy'n gymwys: 

Disgyblion y gorffennol a’r presennol sydd o dan 25 oed ac sydd wedi mynychu Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Pantycelyn yn ogystal â'r disgyblion hynny sy'n mynychu Ysgol Bro Dinefwr ac sy'n byw yn nalgylch yr hen Ysgol Pantycelyn.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

  • 30 Mehefin - disgyblion ysgolion gynradd
  • 31ain Hydref - disgyblion ysgolion uwchradd

Math o grantiau:

Rhoddir grantiau i'r myfyrwyr hynny sy'n astudio neu sy’n bwriadu astudio cyrsiau addysg uwch.

Pwy sy'n gymwys: 

Bydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau am wobrau wrth bobl o dan 25 oed ac sydd wedi mynychu Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri am o leiaf tair blynedd neu wedi mynychu Ysgol Bro Dinefwr ac sy’n byw yn nalgylch yr hen Ysgol Pantycelyn.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

31ain Hydref

Math o grantiau: 

Rhoddir grantiau i hyrwyddo buddiannau addysgol unigolion sy’n trosglwyddo i gwrs addysg bellach/uwch cydnabyddedig a hefyd i gynorthwyo disgyblion ysgol sydd angen cymorth ariannol.

Pwy sy’n gymwys:

Bydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau am wobrau gan bobl o dan 25 oed sy’n byw yn hen blwyf Llandeilo Fawr adeg gwneud y cais ac sydd wedi bod yn byw yno am o leiaf dwy flynedd.  Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n aelodau o neu sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Adnoddau, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

31ain Hydref 

Math o grantiau:

Grantiau i helpu gyda chost llyfrau a chyfarpar neu i ategu grantiau presennol ar gyfer y sawl sy’n astudio meddygyniaeth neu gwrs sy’n ymwneud â meddygyniaeth.

Pwy sy’n gymwys: 

Pobl sydd wedi bod yn byw yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro am o leiaf dwy flynedd ac sy’n astudio cwrs astudiaethau meddygol neu gwrs sy’n ymwneud â meddyginiaeth. Cytunwyd y bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweinyddu’r gronfa hon.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

31ain Hydref

Cefndir:

Roedd John C Williams yn frodor o Gydweli a fu'n gweithio yn Llanelli cyn ymfudo i'r Unol Daleithiau lle daeth yn feistr dur. Roedd ei Ewyllys yn cynnwys cwest a oedd yn darparu ar gyfer sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth yn enw ei rieni.

Math o grantiau:

Grantiau tuag at ffioedd a threuliau byw y sawl sy’n astudio cyrsiau ôl-radd mewn coleg neu brifysgol.  Mae hyn fel arfer yn golygu tâl o oddeutu £5,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd.  Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i’r sawl sy’n dymuno astudio yn yr Amerig, a gallai grantiau ar gyfer hyn fod gymaint â £8,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Pwy sy’n gymwys:

Pobl sydd wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin, am o leiaf dwy flynedd yn ystod y deng mlynedd yn union cyn dyddiad gwneud y cais.  Rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd ysgolion Cydweli/Llanelli.  Rhaid i ymgeiswyr fod dan 30 mlwydd oed adeg gwneud y cais, a dylent feddu gradd anrhydedd dda (I neu IIA), ond mewn rhai amgylchiadau ystyrir gradd anrhydedd ail ddosbarth is.

Gallwch wneud cais am yr ysgoloriaeth hon hyd yn oed os ydych yn aros am ganlyniadau gradd a/neu'n aros i gael eich derbyn ar gwrs.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

30ain Mehefin

Math o grantiau:

  • Grantiau i helpu myfyrwyr astudio cwrs addysg bellach neu addysg uwch mewn Prifysgol, Coleg Prifysgol, Coleg Addysg neu sefydliad addysg uwch arall.
  • Grantiau tuag at brynu gwisg, dillad, offerynnau neu lyfrau.
  • Grantiau tuag at hyrwyddo addysg, gan gynnwys hyfforddiant corfforol a chymdeithasol.

Pwy sy’n gymwys:

Disgyblion sydd wedi mynychu'r ysgolion canlynol am o leiaf dwy flynedd:-  Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth Cambria, Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth Maridunum ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais i:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Dyddiad agor:

1af Ebrill

Dyddiad cau:

31ain Hydref

Math o grantiau:

Grantiau i hyrwyddo addysg, gan gynnwys hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol.

Pwy sy’n gymwys: 

Disgyblion sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion Glan-y-môr, Coedcae, Bryngwyn neu'r Strade.  Rhoddir blaenoriaeth ym mhob achos i ferch amddifad.

Sut i wneud cais:

Enwebiadau gan Benaethiaid yr ysgolion uwchradd uchod.

Math o grantiau:

Bydd cymorth ariannol ar gael i roi cyfle i athro/athrawes y cred yr Ymddiriedolwyr sy’n addas i ymgymryd â chyfnod o astudio naill ai yn neu y tu allan i hen Sir Dyfed, a fyddai’n gefnogol i Addysg.

Pwy sy’n gymwys:

Athrawon a gyflogir yn un o’r tair sir canlynol: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Sut i wneud cais:

E-bostio CyfrifegCorfforaethol@sirgar.gov.uk neu ffonio 01267 224172 i ofyn am ffurflen gais.

Dychwelir ffurflenni cais at:

Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, d/o Emma Davies, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

​Dyddiad cau:

Cynigir y grant unwaith bob tair blynedd yn unig.

Math o grantiau:

  • i helpu disgyblion ag anghenion arbennig
  • i helpu gyda chostau addysg, hyfforddiant, prentisiaeth ac offer i’r rhai sy’n dechrau gweithio
  • i helpu gyda chostau dilyn cyrsiau addysg bellach

Pwy sy’n gymwys: 

Cyn disgyblion Ysgol Llanycrwys i fyny at 25 oed.

Sut i wneud cais: 

Dylid anfon ceisiadau at Mrs J E Stacey, Clerc Cyngor Cymuned Llanycrwys, Ty’n Waun, Ffaldybrenin, Llanwrda, SA19 8QA.

Addysg ac Ysgolion