Menter Brecwast am ddim

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Breakfast club Ar hyn o bryd mae gan 96 o ysgolion cynradd ledled y sir glwb brecwast am ddim, a thestun balchder inni yw bod y niferoedd sy'n defnyddio'r clybiau brecwast hyn ymysg y mwyaf yng Nghymru.

Mae brecwast wedi hen gael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd, gwell canolbwyntio, a gwell ymddygiad yn ein hysgolion.

Mae'n hollbwysig ein bod yn bwyta brecwast gan nad ydym ar ein gorau hebddo. Mae brecwast yn helpu i roi hwb i'r corff ac yn rhoi tanwydd i'r ymennydd ar ôl bod yn cysgu am oriau. Gan ein bod yn defnyddio egni yn ystod y nos mae angen gofalu ein bod yn cael tanwydd newydd cyn gynted â phosibl ar ôl dihuno yn y bore er mwyn cychwyn y diwrnod yn y modd gorau posibl.

Mae'r rhan fwyaf o'r clybiau brecwast yn agor am 8.15am. Gall disgyblion ddewis amryw o ddewisiadau i frecwast, er enghraifft:

  • Dewis o rawnfwyd plaen heb gaenen o siwgr
  • Tost
  • Sudd ffrwythau neu laeth i'w yfed

(Sylwer y gallai ein bwydlen frecwast amrywio rhywfaint o bryd i'w gilydd)

Yn ogystal â chynnig brecwast iach mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn trefnu cystadlaethau a brecwastau ar thema arbennig gydol y flwyddyn, ynghyd ag annog y disgyblion i gymdeithasu yn ystod y sesiwn.  Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim fel bod pawb yn cael cyfle i fod ar eu gorau ar ddechrau'r diwrnod ysgol!

Llaeth ysgol am ddim

Mae cynlluniau cymhorthdal llaeth ysgol yn annog plant i ddatblygu arfer gydol oes o yfed llaeth ac o yfed/fwyta cynhyrchion llaeth. Mae'r Awdurdod yn cynorthwyo ysgolion ledled y Sir i hawlio llaeth am ddim ar gyfer y categorïau oedran canlynol:

  • Dosbarthiadau meithrin (plant o dan 5 oed) sy'n mynd i'r ysgol am fwy na dwy awr y dydd;
  • Hefyd yng Nghymru, mae plant sy'n derbyn addysg Cyfnod Allweddol 1 yn gymwys i gael llaeth am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Addysg ac Ysgolion