Llais y plentyn / person ifanc

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/02/2024

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i roi ei farn/barn ynghylch penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi hyn.

Mae gan blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol wybodaeth unigryw am eu hanghenion a'u hamgylchiadau eu hunain. Bydd ganddynt eu barn eu hunain am ba fath o gymorth yr hoffent ei gael i wneud y gorau o'u haddysg.

Lle y bo'n bosibl, dylent gymryd rhan mewn penderfyniadau fel gosod targedau, dewis ysgolion, asesu eu hanghenion, adolygiadau blynyddol a newid ysgolion. Dylent deimlo'n hyderus y gwrandewir arnynt a bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi.

Efallai na fydd yn hawdd dod o hyd i farn y plentyn / person ifanc bob amser. Gall plant ifanc iawn a phlant ag anawsterau cyfathrebu difrifol, er enghraifft, fod yn her wirioneddol i weithwyr proffesiynol. Ond mae'r egwyddor o ddarganfod barn y plentyn neu'r person ifanc yn bwysig iawn. Gall eu barn a'u profiadau helpu gweithwyr proffesiynol i ddod i benderfyniadau. Dylai cynghorau, ysgolion a meithrinfeydd helpu hyn i ddigwydd.

Mae gan blant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghymru yr hawl i:

  • apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan eu hawdurdod lleol ynglŷn â'u hanghenion dysgu ychwanegol a
  • dod â hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn ysgolion yng Nghymru.

Mae'r hawliau apelio a hawlio yr un fath â'r rhai ar gyfer rhieni a gofalwyr. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y rhieni i wneud apêl a hawliad. Mae'n golygu bod gan blant/pobl ifanc yr un hawliau â'u rhieni/gofalwyr i wneud eu hapêl a'u hawliad eu hunain.

Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth:

Addysg ac Ysgolion