Kerbcraft

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/10/2022

Cynllun diogelwch ffyrdd cenedlaethol yw Kerbcraft, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ei nod yw dysgu plant 5-7 oed i fod yn gerddwyr mwy diogel trwy fynd â nhw at ochr y ffordd a dangos iddynt sut y gall gwneud penderfyniadau cywir ac ymddwyn yn briodol eu helpu i aros yn ddiogel.
Mae'n sgil hanfodol, ac os caiff ei dysgu ar yr oedran ifanc hwn bydd yn aros gyda nhw am oes. Ein nod yw lleihau nifer y damweiniau sy'n digwydd i blant sy'n cerdded.
Profwyd mai Hyfforddiant Ymarferol ar Ochr y Ffordd yw'r ffordd orau o helpu plant ifanc i aros yn ddiogel ger ffyrdd neu wrth groesi ffyrdd.
Caiff y plant eu cymryd allan o'r ysgol gan staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig, mewn grwpiau heb fod yn fwy na thri i bob oedolyn, i ddysgu 3 phrif sgil

  • Dewis mannau diogel i groesi'r ffordd
  • Croesi'n ddiogel ger ceir sydd wedi'u parcio
  • Croesi'n ddiogel ger cyffyrdd

Caiff pob sgil ei hymarfer mewn sawl lleoliad gwahanol dros gyfnod o 4 wythnos; bydd y plant yn cwblhau cyfanswm o 12 sesiwn, ac yn dilyn hyn byddant yn derbyn eu tystysgrif.
Os ydych yn rhiant, athro/athrawes neu lywodraethwr ysgol a'ch bod am wybod mwy am ddysgu Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â'r Cydgysylltwyr Kerbcraft.

Mae angen Gwirfyddolwyr - allwch chi helpu?

Allwch chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, roi 2 awr o'ch amser bob wythnos i fod yn Wirfoddolwr Hyfforddi Kerbcraft? Rydym yn darparu hyfforddiant llawn a chymorth i'r holl wirfoddolwyr. Gall mam, tad, mam-gu a thad-cu, modryb, ewythr, llywodraethwyr a ffrindiau'r ysgol wirfoddoli.
Os hoffech wirfoddoli, neu i gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch GariGofal@Sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228291/ 228289.

Addysg ac Ysgolion