Cydroddoldeb ac amrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/03/2023

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n credu eu bod yn bodloni gofynion ein swyddi gwag heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodas neu bartneriaeth sifil.

Rydym wedi "ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth. Os bodlonir meini prawf hanfodol y swydd, mae'r Cyngor yn gwarantu y rhoddir cyfweliadau i bobl sydd ag anableddau, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010.

Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir - Rhaid i pob un o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir NAD ydynt yn gymwys i wneud cais am yr hawl i weithio yn y DU o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gael rhyw fath arall o ganiatâd mewnfudo yn eu galluogi i weithio o 1 Ionawr ymlaen. Ewch i wefan Llywodraeth y DU i gael rhagor o wybodaeth am ddeall eich hawl i weithio yn y DU.