Recriwtio Cyn-droseddwyr a Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/02/2024

Recriwtio Cyn-droseddwyr

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i drin ei staff, eu darpar staff, eu darpar wirfoddolwyr a'u gwirfoddolwyr presennol yn deg, heb ystyried cefndir, diwylliant, hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodas neu bartneriaeth sifil na chefndir troseddol.

Mae'r Awdurdod yn mynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb ac yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai sydd â chofnodion troseddol. Byddwn ni'n rhestru'r holl ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad yn seiliedig ar eu sgiliau, eu cymwysterau, a'u profiad.

Ein nod yw trin pob ymgeisydd am swyddi yn deg ac i beidio â gwahaniaethu'n annheg yn erbyn unrhyw ymgeisydd yn seiliedig ar euogfarn neu wybodaeth arall a ddatgelwyd yn eu Gwiriad DBS neu hunan-ddatgelu.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Fel sefydliad sy'n asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer swyddi sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) gan ddefnyddio gwiriadau cofnod troseddol sy'n cael eu prosesu drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), mae'r Cyngor yn cydymffurfio'n llawn â Chôd Ymarfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein nod yw trafod unrhyw fater a ddatgelwyd ar dystysgrif DBS gyda'r unigolyn sy'n gwneud cais am y swydd cyn gwneud penderfyniad i dynnu cynnig cyflogaeth amodol yn ôl.

Nid yw datgeliadau sy'n cynnwys collfarnau blaenorol a/neu rybuddion o anghenraid yn rhwystr i gael swydd. Fodd bynnag, bydd methu â datgelu euogfarnau o'r fath lle mae'n ofynnol yn cael ei drafod ymhellach gyda'r unigolyn ynglŷn â'i resymau dros beidio â datgelu'r wybodaeth hon. Os credir bod ymgais i gael gwaith drwy dwyll, byddai hyn fel arfer yn arwain at dynnu'r cynnig o gyflogaeth yn ôl, neu gamau disgyblu neu derfynu cyflogaeth, os yw'r unigolyn eisoes wedi'i benodi.

Côd Ymarfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)