Digwyddiadau Cymunedol Tycroes
Mae'r digwyddiadau cymunedol wedi cynyddu ymgysylltiad cymunedol, mae prynu'r cynhwysydd storio a'r offer newydd ar gyfer digwyddiadau wedi helpu i leihau costau cysylltiedig.
Mae'r cymorth wedi golygu y gellir cynnal ystod gynyddol o ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac i sefydliadau cymunedol i ddod yn llai dibynnol ar ffynonellau cyllid allanol gan ddod yn hunangynhaliol.
Mae llawer o rolau gwirfoddoli wedi cael eu cefnogi a'u creu o ganlyniad i'r cyllid i gefnogi ymgysylltu cymunedol a digwyddiadau.