Help gyda phrydau
Weithiau, nid yw pobl yn gallu coginio drostynt eu hunain, oherwydd salwch neu wendid, a gall hyn beryglu eu gallu i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae'n bosibl prynu cyflenwad wythnos (neu bythefnos) o brydau wedi'u rhewi a’r rheini’n gytbwys o ran maeth. Byddan nhw’n cael eu dosbarthu i'ch cartref, a gallwch chithau wedyn eu hail-dwymo mewn microdon neu ffwrn gonfensiynol. Mae bwydydd Oakhouse a Wiltshire Farm Foods yn cynnig y gwasanaeth hwn yn yr ardal.
Gallwch archebu eich nwyddau ar-lein a gofyn i’r cwmni ddod â nhw i chi. Pan fyddwch wedi siopa gyda nhw am y tro cyntaf, mae'n hawdd iawn ail-archebu a chynllunio eich nwyddau. Mae archfarchnadoedd yn codi unrhyw beth rhwng £2 a £6 am ddod â bwyd i chi, ond weithiau maen nhw’n dod am ddim os yw’r archeb yn un mawr. Efallai y bydd eich siop leol hefyd yn gallu helpu gyda’r siopa - mae’n werth gofyn iddyn nhw.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Fy un agosaf - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Gwneud cais am asesiad
Gofal preswyl a nyrsio
Cysylltu Bywydau (Lleoliad i Oedolion)
Seibiannau byr
Nam ar y golwg a'r clyw
Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd