Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi drafftio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd newydd. Mae angen y cynllun hwn i helpu'r Cyngor i gyflawni nod strategol y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac amcanion a mesurau'r strategaeth. Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn nodi cymunedau ledled y sir sydd â'r risg uchaf o lifogydd glaw (dŵr wyneb) a llifogydd afonol. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi ymyriadau addas i reoli perygl llifogydd a gwella gwytnwch cyffredinol cymunedau i lifogydd. Mae'r cymunedau hyn yn cael eu galw'n 'gymunedau blaenoriaeth.’

Mae cyfanswm o 28 o gymunedau blaenoriaeth wedi'u nodi fel rhai sydd mewn perygl uchel o lifogydd afonol a llifogydd glaw ledled y sir. Ar ôl nodi'r cymunedau blaenoriaeth hyn, datblygwyd rhestr o gamau gweithredu i reoli'r risgiau o lifogydd ym mhob cymuned.

Hoffem gael adborth ar ein dadansoddiad o'r ardaloedd sydd â'r perygl mwyaf o lifogydd, a'n rhaglen waith dros y 6 blynedd nesaf i reoli'r risgiau a nodwyd.

Gan fod hon yn ddogfen hir, mae'n bosibl y bydd ymatebwyr am ymateb i'r arolygon ar y cymunedau sydd o ddiddordeb i ddarllenydd yr adroddiad yn unig (gweler Adrannau 4-10).

 

Dogfennau Ategol

Cyngor Sir Caerfyrddin Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Drafft 2025-2030

Sut i gymryd rhan

Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn.