Archwiliad
Gweithio gyda’r Archwiliad Mewnol i ddeall sut mae rheoli risg, llywodraethu, a rheolaethau mewnol yn cael eu hadolygu i gadw gweithrediadau’n effeithiol ac yn atebol.
Caffael
Dysgu sut mae contractau a phenderfyniadau prynu’n cael eu rheoli — gan gydbwyso gwerth am arian gyda chynaliadwyedd, cydraddoldeb, a blaenoriaethau cymunedol yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
Risg ac Yswiriant
Gweld sut mae risgiau’n cael eu nodi, eu rheoli, a’u lleihau i ddiogelu’r sefydliad a lleihau colledion posibl.
Gwasanaethau Refeniw
Profiad o weinyddu a chasglu Treth y Cyngor a Trethi Busnes, prosesu taliadau, a chefnogi cynlluniau budd-daliadau sy’n helpu cartrefi incwm isel.
Cyfrifyddiaeth
Archwilio cyfrifyddu technegol, rheoli ariannol, a chyllid strategol — o gyfrifon terfynol ac adroddiadau corfforaethol i gyllidebu a chynghori ar brosiectau mawr.
Rheoli’r Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau.
Darganfod sut mae cronfeydd ar raddfa fawr yn cael eu rheoli, gan gynnwys Cronfa Bensiwn Dyfed a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, yn ogystal â gwasanaethau’r trysorlys a bancio.
Pensiynau, Systemau a Thaliadau
Profiad ymarferol gyda systemau ariannol, taliadau i gyflenwyr, rheoli cyflogres, a phrosesau cyllid corfforaethol sy’n cefnogi cleientiaid mewnol ac allanol.