Academi Lletygarwch

Prosiect Ymgeisydd: Really Pro

Teitl y Prosiect: Academi Lletygarwch

Blaenoriaeth Buddsoddi: Pobl & Sgiliau

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Bydd prosiect yr Academi Lletygarwch yn darparu ystod o gyrsiau byr achrededig Lefel 1-3 i ddiwallu anghenion y sector lletygarwch, hamdden, llety a thwristiaeth esblygol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y cyrsiau'n cefnogi pobl o fewn y sector a'r rhai sy'n ystyried ymuno (neu ailymuno).

Gyda mwy a mwy o ymwelwyr yn dod i Gymru, mae’r sector twristiaeth a lletygarwch yn tyfu ac mae angen mwy o staff. Mae amrywiaeth eang o rolau ar gael yn y sector, ond mae’n parhau i wynebu heriau recriwtio a chadw.

Bydd yr Academi Lletygarwch yn helpu i wella sgiliau unigolion i'w paru â swyddi gwag priodol ac yn cefnogi busnesau i gadw staff neu leihau bylchau recriwtio - mewn timau blaen a chefn tŷ. Bydd y cyrsiau'n cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu, rheoli gwrthdaro, iechyd a diogelwch, rheoli heintiau, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, sgiliau cynnal bywyd sylfaenol, arweinyddiaeth a rheolaeth.