Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Technolegau Werdd yn Sir Gaerfyrddin

Prosiect Ymgeisydd: Coleg Sir Gâr 

Teitl y Prosiect: Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Technolegau Werdd yn Sir Gaerfyrddin

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Campws Gelli Aur

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Technoleg Werdd a gynigir gan Goleg Sir Gâr yn gyfleuster o’r radd flaenaf a fydd yn arddangos arloesedd ac ystod gystadleuol o fentrau ac adnoddau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Mae rhai o flaenoriaethau allweddol y prosiect yn cynnwys cefnogi Llwybrau Gyrfa Sero Net ar gyfer dysgwyr ysgol a choleg yn ogystal ag ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus/preifat, cefnogi'r gwaith o leihau effaith amgylcheddol sefydliadau sector cyhoeddus/preifat, a darparu hyfforddiant trwy ddatblygu technoleg newydd.

Nod y prosiect yw adeiladu’r ganolfan ar Gampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr a dod yn ganolfan IEMA (Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol) gan ddarparu cyrsiau hyfforddi achrededig ar gyfer cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol. Mae'r cyrsiau wedi'u hanelu at hybu ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd mewn materion amgylcheddol yn ogystal â'r sector amaethyddiaeth/bwyd, a bydd y ganolfan yn ganolbwynt rhanbarthol ar gyfer yr arferion hyn ynghyd â dylunio a darparu technoleg arloesol sy'n effeithlon o ran ynni ac yn gynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Tyfu Sir Gâr – i hybu hunangynhaliaeth mewn amaethyddiaeth i Gymru.