Tyfu Sefydliadau Trydydd Sector a Chryfhau Partneriaethau

Prosiect Ymgeisydd: Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr

Teitl y Prosiect: Tyfu Sefydliadau Trydydd Sector a Chryfhau Partneriaethau

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cymuned & Lle

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Nod y prosiect hwn yw meithrin gallu'r trydydd sector i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy wrth ddarparu gweithgareddau ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled y sir. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dri maes allweddol sy'n mynd i'r afael â gwirfoddoli, meithrin gallu a chynllunio olyniaeth ar gyfer y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y prosiect yn darparu rhaglen wedi'i thargedu i gefnogi sefydliadau a phartneriaid y trydydd sector i adfywio cyfleoedd gwirfoddoli, i alluogi twf sefydliadol, i gryfhau partneriaethau, ac i sicrhau bod sefydliadau Sir Gaerfyrddin yn barod ar gyfer heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.