Arloesedd Net Sero

Prosiect Ymgeisydd: Innovation Strategy

Teitl y Prosiect: Arloesedd Net Sero

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Mae Arloesedd Net Sero yn brosiect sy'n anelu at ddarparu cyfleoedd newydd i fusnesau ysgogi twf ynghyd â chyfrannu at uchelgeisiau sero net. Dan arweiniad y Strategaeth Arloesedd, bydd y prosiect yn darparu cymorth wedi'i deilwra, gweithdai/dosbarthiadau meistr, a mentora un-i-un i fusnesau ledled Sir Gaerfyrddin a bydd datblygu atebion cynaliadwy yn flaenoriaeth. Bydd 34 o fusnesau lleol yn gallu cael cymorth ariannol gan y prosiect i weithio ar gysyniadau arloesol ac adolygu syniadau cynnar ynghylch cynaliadwyedd a sero net. Mewn partneriaeth â BT, bydd y prosiect yn anelu at hybu cysylltedd digidol i fusnesau yn y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a bydd yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer defnyddio technoleg gyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y busnesau hefyd yn gallu defnyddio labordai arloesi a chyfleusterau profi a fydd yn cefnogi llwyddiant wrth ddatblygu arloesedd sero net. Bydd y cymorth a ddarperir i fusnesau yn trosi i gyfleoedd gwaith i bobl leol drwy dwf busnesau ac yn annog pobl yn Sir Gaerfyrddin i aros ac ymgysylltu â’r busnesau arloesol. Yn ddelfrydol, bydd y rhyngweithio yn gwella iechyd a llesiant unigolion mewn cymunedau gwledig a bydd yn gwella'r amgylchedd lleol trwy strategaethau Sero Net a fabwysiadwyd gan wasanaethau cyhoeddus a busnesau.