Cyflymu Pentre Awel

Prosiect Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe

Teitl y Prosiect: Cyflymu Pentre Awel

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer arloesi mewn datblygiad technoleg byw â chymorth ac Iechyd a Gofal. Mae gan seilwaith newydd, gan gynnwys 'labordy byw gwasgaredig' sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o safle Pentre Awel, y potensial i gyflymu datblygiad technolegau iechyd digidol. Bydd y prosiect hwn yn creu ecosystem o gydweithio rhwng busnesau, iechyd, academaidd a'r sector cyhoeddus, a bydd ei ganlyniadau yn sicrhau buddion iechyd i Gymru ac yn gwella'r economi leol yn sylweddol.

Nod y prosiect yw helpu i sefydlu Sir Gaerfyrddin fel lleoliad dewis arloeswyr a buddsoddwyr brodorol / mewnol i ddatblygu a graddio eu datblygiadau arloesol byw â chymorth. Bydd llif o brosiectau yn cael eu sefydlu gan gynnwys gwelyau profi, datblygu treialon a chyflwyno. Bydd Swyddogion Arloesi yn brocera ymgysylltiad â grwpiau cleifion a dinasyddion i sicrhau bod gweithgaredd prosiect yn parhau i gyd-fynd ag anghenion gofal iechyd a'r farchnad, ac i lywio'r cyfleoedd arloesi orau.