Blociau Amwynder Newydd a Thrydaneiddio'r Meysydd Gwersylla ym Mharc Gwledig Penbre

Prosiect Ymgeisydd: Cyngor Sir Gâr

Teitl y Prosiect: Blociau Amwynder Newydd a Thrydaneiddio'r Meysydd Gwersylla ym Mharc Gwledig Penbre

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Parc Gwledig Penbre

Nod y prosiect hwn yw datblygu cyfleusterau ar y safle gwersylla a charafanau ym Mharc Gwledig Pen-bre. Bydd hyn yn codi sgôr y parc o 3 seren i 4 seren ar Croeso Cymru a bydd yn cyd-fynd ag amcanion y parc o ran bod yn gyrchfan amgylcheddol gynaliadwy fel rhan o Brosiect Zero Sir Gâr.

Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod strwythur parhaol yn lle'r bloc amwynder dros dro yn y wersyllfa. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau golchi (dan do ac awyr agored) a gorsaf golchi beiciau, gosod ynni cynaliadwy i bweru ac i wella'r lleiniau gwersylla trydan presennol ynghyd â gosod pyst trydan newydd ar gyfer lleiniau.

Yn y pen draw, bydd y newidiadau'n hybu twristiaeth yn yr ardal ac yn gwella profiad y parc i ymwelwyr - yn lleol ac yn genedlaethol.