Hwb Iechyd a Lles Werdd Cynefin

Prosiect Ymgeisydd: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 

Prosiect y Teitl: Hwb Iechyd a Lles Werdd Cynefin

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cymuned & Lle

Lleoliad: Caerfyrddin

Nod yr Hwb yw hyrwyddo cyfleoedd iechyd meddwl a llesiant cymunedol i grwpiau cymunedol trwy fynediad i fannau gwyrdd lleol. Bydd y prosiect yn anelu at wneud hyn drwy greu cyfleoedd newydd i grwpiau a phobl leol fwynhau gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar natur i gefnogi iechyd a llesiant gan deilwra'r cymorth yn seiliedig ar anghenion penodol unigolion. Bydd y prosiect, sydd wedi'i leoli yn yr Hwb Cynefin yn Nhre Ioan, yn darparu rhaglenni amrywiol yn seiliedig ar anghenion amrywiol, er enghraifft rhaglenni 'Adfer ym myd natur' a fydd yn rhoi cymorth i nyrsys a meddygon y GIG sy'n dioddef o 'orflinder', a rhaglenni natur wedi'u teilwra i gefnogi plant a phobl ifanc lleol gyda'u hiechyd a'u llesiant. Nod PCYDDS, ochr yn ochr â sawl sefydliad yn yr ardal leol, yw gweithio tuag at gysylltu cymunedau â natur a thynnu sylw at bwysigrwydd natur ar gyfer iechyd a llesiant. Bydd yr arian hefyd yn darparu astudiaeth ddichonoldeb o ran datblygu'r safle yn y dyfodol fel lleoliad ymarferion gwyrdd i gleifion y GIG, gan gynorthwyo o ran ffisiotherapi a chynlluniau adsefydlu ar y safle.