Hybu yr Economi Cymedeithasol yn Sir Gaerfyrddin

Prosiect Ymgeisydd: Cwmpas

Teitl y Prosiect: Hybu yr Economi Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Bydd y prosiect yn darparu cymorth busnes arbenigol i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, gan eu helpu i gymryd perchnogaeth o’u dyfodol economaidd drwy entrepreneuriaeth gymdeithasol a meithrin cyfoeth cymunedol. Bydd yn helpu'r gwaith o greu cronfa o gyflenwyr gwasanaeth parod i dendro a fydd yn creu gwerth cymdeithasol, gan eu helpu i arallgyfeirio a gwella eu sgiliau wrth gael mynediad at gyfleoedd gwasanaeth cyhoeddus. Bydd y cyllid yn cefnogi ymgynghorydd busnes cymdeithasol a chynghorydd datblygu’r farchnad i gynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein, rhwydweithio wyneb yn wyneb, datblygu cymheiriaid a hacathonau cymunedol i ddatblygu cyfleoedd masnachol yn syniadau busnes a fydd yn arwain at gyflogaeth a thwf economaidd yn yr ardal leol.


Gan weithio gyda chyrff yn y sector cyhoeddus a chymunedau lleol yn Sir Gaerfyrddin, mae’r prosiect yn bwriadu nodi lleoedd gwag yn y gadwyn gyflenwi a chyfleoedd i ddatblygu busnesau cymdeithasol i wneud y mwyaf o wariant lleol a gwerth cymdeithasol. Bydd y prosiect yn cefnogi busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol i weithio gyda’r sector cyhoeddus a bydd yn bwysig iawn i greu swyddi a mynd i'r afael â thlodi yn Sir Gaerfyrddin.