Caru Sir Gâr

Prosiect Ymgeisydd: Cadwch Gymru'n Daclus

Teitl y Prosiect: Caru Sir Gâr

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cymuned & Lle

Location: Sir Gaerfyrddin

Mae Caru Sir Gâr yn gydweithrediad rhwng Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Sir Caerfyrddin sy’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol negyddol ein cymdeithas. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a thaflu pethau i ffwrdd yn ddiangen ar bobl a bywyd gwyllt ac yn helpu cymunedau i wneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae'r prosiect yn dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd i gynnig atebion i wella eu hamgylchedd lleol. Mae gweithgareddau'n cynnwys cefnogi mentrau glanhau cymunedol; ehangu'r rhwydwaith o ganolfannau codi sbwriel cymunedol a'r cynllun Ardaloedd Di-sbwriel; sefydlu a chefnogi caffis atgyweirio, siopau ailddefnyddio/cyfnewid, ailgylchu a chyfleusterau gwastraff; llunio pecynnau cymorth ac adnoddau ymgyrchu; yn ogystal â darparu arweiniad i helpu i ddatblygu strategaethau lleol.

Mae Caru Sir Gâr yn galluogi cymunedau lleol i weithredu, cymryd balchder a chyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol a darparu ystod o gyfleoedd gwirfoddoli ymarferol.