Hwb Menter Busnes

Prosiect Ymgeisydd: Business In Focus

Teitl y Prosiect: Hwb Menter Busnes

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Caerfyrddin

Nod y prosiect Hwb Menter Busnes yw adeiladu ar waith blaenorol i gefnogi microfusnesau / busnesau bach newydd i ddechrau a chefnogi'r rhai presennol i ddod yn fwy cynaliadwy, arloesol a chystadleuol, yn enwedig y rhai nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth busnes prif ffrwd a gynigir drwy Busnes Cymru neu Syniadau Mawr Cymru.
Bydd yn darparu 'siop un stop' yn y gymuned (Hwb Menter Busnes) yng Nghaerfyrddin, gan gynnig cymorth a chyngor ar hanfodion busnes fel recriwtio, materion cyfreithiol, marchnata, polisïau a phrosesau, a cheisiadau am grantiau. Bydd yr Hwb Menter Busnes hefyd yn canolbwyntio ar fabwysiadu technoleg ddigidol, lleihau carbon a sectorau twf blaenoriaeth lleol eraill.
Bydd Mentoriaid Busnes yn darparu cefnogaeth drwy gymysgedd o gyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â gweminarau, rhwydweithiau ac apwyntiadau rhithwir ar-lein. Yn ogystal, bydd yr Hwb yn cynnig mannau cydweithio ac ystafelloedd cyfarfod wedi'u rheoli, yn ogystal â chyfleoedd i fusnesau 'brawf fasnachu’.