Gofod Masnachu - Cefnogi Busnesau Lleol Castell Newydd Emlyn

Prosiect Ymgeisydd: Antur Cymru

Teitl y Prosiect: Gofod Masnachu - Cymorth Busnes Lleol

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Castell-newydd Emlyn

Nod y prosiect Cefnogi Busnes Lleol/Mannau Masnachu yw darparu cymorth a chyngor arbenigol i fusnesau cyn-cychwyn, busnesau sydd yn eu dyddiau cynnar a busnesau sy’n bodoli eisoes yng Nghastell Newydd Emlyn a’r ardaloedd cyfagos. Bydd y prosiect yn grymuso entrepreneuriaid a busnesau drwy wella sgiliau busnes drwy gyngor busnes wyneb yn wyneb a hyfforddiant yn eu siop masnachu prawf ar Stryd Fawr Castell Newydd Emlyn. Bydd Ymgynghorwyr Busnes profiadol yn darparu cymorth marchnata ac yn darparu arferion sy’n hanfodol i fenter lwyddiannus i berchnogion busnes/entrepreneuriaid – deall incwm, cost cynhyrchu, gwerthu TG a rhyngrwyd, cynaliadwyedd a rheoli disgwyliadau cwsmeriaid gyda hyfforddiant ychwanegol mewn cadw cofnodion, marchnata gweledol, y defnydd o'r Gymraeg mewn busnes a strategaethau prisio. Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu drwy gyngor un-i-un, gweithdai, a rhwydweithio, gan adeiladu ar lwyddiannau prosiect blaenorol y Gronfa Adnewyddu Cymunedol.