Arloesedd a Pharodrwydd Busnes Pentre Awel

Prosiect Ymgeisydd: Cyngor Sir Gâr

Teitl y Prosiect: Arloesedd a Pharodrwydd Busnes Pentre Awel

Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Nod y prosiect hwn yw sefydlu Tîm Arloesi a Busnes pwrpasol ar gyfer prosiect Pentre Awel. Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, prif nod y tîm yw paratoi a chychwyn gweithgareddau hanfodol cyn agor Pentre Awel, sef datblygiad arloesol sy'n dod â busnes, ymchwil, y byd academaidd, iechyd a hamdden ynghyd o fewn seilwaith sy'n cael ei yrru gan dechnoleg. Bydd y tîm yn sicrhau bod y prosesau, y gweithdrefnau a'r elfennau hanfodol ar waith ar gyfer gweithrediadau busnes ac arloesi effeithlon ac effeithiol.
Mae ei amcanion yn cynnwys:
• Datblygu mannau deori busnes a chlinigol i gefnogi busnesau lleol a chwmnïau ymchwil.
• Sefydlu "labordy byw" ar gyfer gwaith ymchwil a dilysu cynnyrch.
• Canolbwyntio ar fodelau cymdeithasol a gofynion iechyd cymunedol, yn enwedig yn y man gwyrdd ger Pentre Awel.
• Adeiladu seilwaith TG a digidol cadarn i drin data, seiberddiogelwch, a gofal iechyd cleifion.
• Gweithredu mesurau archwilio a llywodraethu i sicrhau effeithiolrwydd ac annibyniaeth Pentre Awel.