Ein proses recriwtio

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais am swydd

Dysgwch am y broses recriwtio, o lenwi'r ffurflen gais i gael y swydd a llawer mwy.

Os ydych chi wedi darllen am ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ac yn meddwl y byddem yn gyflogwr addas i chi, y cam nesaf yw gwneud cais am swydd wag.

  • Chwilio am ein swyddi gwag presennol gan ddefnyddio'r offeryn chwilio ar frig y dudalen.
  • Sicrhewch eich bod wedi darllen yr hysbyseb a phroffil y rôl cyn gwneud cais, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o weithgareddau a gofynion y rôl.
  • Ar ôl i chi ddod o hyd i swydd wag addas, cliciwch ar "Gwneud cais" a byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio i wneud a chyflwyno cais ar gyfer y rôl honno.

Os ydych am i ni wneud unrhyw addasiadau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch mewn perthynas â'n proses recriwtio, mae croeso i chi gysylltu â'r rheolwr recriwtio ar gyfer eich rôl (gwelwch eu manylion cyswllt ar yr hysbyseb swydd). Nid ydym am i unrhyw agwedd ar ein proses recriwtio fod yn rhwystr i chi.

Mewngofnodwch i'r Ganolfan Ymgeisio

Pob lwc gyda'ch cais!

I gael rhagor o wybodaeth ac atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein proses recriwtio, ewch i'n Cwestiynau Cyffredin.