Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/02/2024

Yma cewch yr atebion i unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch y broses ymgeisio.

Mae ein safle gyrfaoedd wedi'i gynllunio i gefnogi ein hymgeiswyr i ddod o hyd i'r cyfle addas gorau sydd gennym ar gael ar unrhyw adeg benodol.

Gallwch gofrestru ar y Ganolfan Geisiadau sy'n eich galluogi i weld y swyddi gwag sydd ar gael; creu rhybuddion swydd i gyd-fynd â'r math o rôl rydych chi'n chwilio amdani; gwneud ceisiadau; gweld statws ceisiadau wedi'u cwblhau; gweld yr holl gyfathrebu; trefnu cyfweliadau a hyd yn oed derbyn cynigion am swyddi.

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch wedyn wasgu'r botwm 'Gwneud cais' am unrhyw swydd wag y mae gennych ddiddordeb ynddi a chwblhau'r ffurflen gais.

Gallwch. Pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf, gofynnir i chi ym mha iaith yr hoffech gyflwyno unrhyw geisiadau a derbyn unrhyw ohebiaeth. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fyddwch yn gallu newid yr iaith ar ôl i chi ei dewis! Bydd angen i chi ail-gofrestru.

Ydy. Os yw'r swydd yn dal ar agor neu os yw swydd newydd ei hysbysebu, ac mae wedi bod o leiaf chwe mis ers eich cyfweliad diwethaf, ac mae croeso i chi wneud cais am swyddi gwag eraill hefyd.

Gallwch. Byddwch yn derbyn diweddariadau e-bost wrth i'ch cais fynd yn ei flaen drwy'r broses recriwtio a gallwch wirio statws eich cais yn y Ganolfan Geisiadau. 

Mae gan y Ganolfan Geisiadau 'Ganolfan Gymorth' i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau neu faterion sydd gennych ynghylch mewngofnodi, cadw ffurflenni cais, cyflwyno ffurflenni cais, diwygio gwybodaeth. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb yno, gallwch ffonio'r Tîm Recriwtio ar OleeoRecruitment@sirgar.gov.uk

Na, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno un cais ar gyfer pob swydd.

Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi cwblhau un cais, bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gofnodir gennych yn cael ei storio ar gyfer eich cyfrif a gall ymddangos pan fyddwch yn cwblhau unrhyw geisiadau pellach. Gellir diwygio'r wybodaeth hon ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol, a dylech sicrhau eich bod yn diweddaru adrannau o'r cais sy'n benodol i'r swydd, Datganiad Ategol; Hanes Gwaith; Addysg a Hyfforddiant.

Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost gennym ni, a bydd eich statws yn cael ei ddiweddaru yn y Ganolfan Geisiadau. Yn dibynnu ar sut mae'r rheolwr recriwtio eisiau cynnal y cyfweliadau, efallai y byddwch yn gallu hunan-ddewis amser cyfweld sy'n addas i chi drwy'r ganolfan geisiadau; neu byddwch yn cael manylion y cyfweliad. Os yw'r cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir, anfonir dolen gyswllt atoch.

Ar ôl y cyfweliad byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ac yn rhoi gwybod a ydych wedi bod yn llwyddiannus. Byddwn yn darparu adborth cyfweliad lle y gofynnwyd amdano. Byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad gennym drwy'r Ganolfan Ymgeiswyr yn cadarnhau canlyniad y cyfweliad.

Bydd eich rheolwr recriwtio yn gallu dweud wrthych am fanylion allweddol eich cynnig, a bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig i chi, y byddwch yn gallu ei weld yn y Ganolfan Geisiadau.

 Gallwch hefyd ddarllen am y buddion eraill a gynigir gennym ar ein tudalen Buddion Gweithwyr.

Byddwn yn ceisio siarad â chi i roi adborth i chi ar ein penderfyniad, a byddwn hefyd yn cadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig atoch, a gallwch weld gohebiaeth yn eich Canolfan Geisiadau.

Efallai y bydd eich rheolwr recriwtio yn trafod gyda chi yr opsiwn o gael eich rhoi yn ein Cronfa Dalent, fel y gall rheolwyr recriwtio eraill eich ystyried os ydynt yn credu bod gennych y sgiliau y maent yn chwilio amdanynt.

Gobeithio y byddwch wedi siarad â'ch rheolwr recriwtio a rhoi gwybod iddo ar lafar eich bod yn derbyn y swydd ond byddwn hefyd yn anfon llythyr cynnig amodol atoch yn cadarnhau'r manylion pwysig. Rhaid i chi fewngofnodi i'r Ganolfan Ymgeiswyr a derbyn y cynnig yn ffurfiol.

Sylwch:  Mae'r holl gynigion yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth, ac fe'ch cynghorir i beidio â chyflwyno hysbysiad o'ch bwriad i adael eich swydd bresennol tan i chi gwblhau'ch holl wiriadau cyn cyflogaeth yn foddhaol a dywedwyd wrthych gan eich rheolwr recriwtio. 

Ar ôl i chi dderbyn y cynnig, gallwn ddechrau cynnal y gwiriadau cyn cyflogaeth perthnasol. Bydd y math a nifer y gwiriadau y mae'n ofynnol i ni eu gwneud yn dibynnu ar y swydd a gynigiwyd i chi.

Fe'ch anogir yn y Ganolfan Geisiadau i gwblhau'r gwiriadau angenrheidiol, a bydd eich rheolwr recriwtio hefyd yn cysylltu â chi os oes gwiriadau y mae angen eu cynnal wyneb yn wyneb.

Bydd y math a nifer y gwiriadau y mae'n ofynnol i ni eu gwneud yn dibynnu ar y swydd a gynigiwyd i chi a gallai gynnwys un neu fwy o'r gwiriadau canlynol:


Gwiriadau o bwy ydych chi a'ch hawl i weithio – cyn i chi ddechrau gweithio i ni, mae angen i ni wirio bod gennych yr hawl i weithio yn y DU, a rhoddir gwybod i chi ba ddogfen/dogfennau y bydd angen i chi eu dangos. Mae'n bwysig nodi bod yn rhaid i ni weld y ddogfennaeth wreiddiol, felly ni fyddwn yn gallu derbyn llungopïau.

Gwiriadau cyflogaeth flaenorol a geirdaon – yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i ni ofyn am eirda gan eich cyflogwr presennol, a chyflogwyr blaenorol hefyd. Os ydych yn credu efallai na fyddwch yn gallu darparu geirdaon am gyfnod parhaus o gyflogaeth, siaradwch â'ch rheolwr recriwtio a gallem ystyried a fyddai mathau eraill o eirdaon yn dderbyniol.

Gwiriadau arolygu neu gadarnhau iechyd - ein nod yw hyrwyddo a chynnal iechyd pawb yn y gwaith. Efallai y bydd yn rhaid i chi gael gwiriad iechyd os yw'n ofyniad cyfreithiol i'r swydd, ac fel cyflogwr cyfrifol, o dan gyfraith Iechyd a Diogelwch, mae'n rhaid i ni sicrhau bod eich iechyd a'ch llesiant yn cael eu diogelu, ac nad yw'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn niweidio eich iechyd. O ganlyniad i asesiad cadarnhau iechyd, efallai y bydd angen addasiadau neu gymorth i'ch galluogi i wneud y gwaith.

Gwiriadau o Gofnodion Troseddol - Os yw eich swydd yn cynnwys y canlynol, mae'n rhaid i ni gael gwiriad cofnod troseddol arnoch chi:

  • Gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed.
  • Gweithio mewn swydd lle byddwch yn cael cysylltiad rheolaidd â phlant neu grwpiau agored i niwed megis gweithio mewn ysgol neu gartref gofal.

Gofynnir i chi lenwi'r datganiadau priodol a'r ffurflenni cais y Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd unrhyw wybodaeth a ddatgelir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond y rhai sydd angen ei gweld fel rhan o'r broses recriwtio y bydd yn ei gweld.
Sylwch: Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn gwahardd unigolyn rhag gweithio gyda ni. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y swydd ac amgylchiadau a chefndir y troseddau.

Polisïau Recriwtio Cyn-droseddwyr a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Gwirio Cymwysterau a/neu wiriadau Cofrestriadau Proffesiynol - os oes angen cymwysterau, hyfforddiant neu gofrestriadau proffesiynol arnoch ar gyfer y swydd, byddwn yn gofyn am brawf o hyn. Nid oes angen i ni weld a gwirio pob cymhwyster, dim ond y rhai sy'n ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd sydd ei hangen arnom, fel y nodir ym mhroffil y swydd.

Peidiwch â phoeni os na allwch ddarparu prawf (er enghraifft, mae wedi'i golli), Os yw'r cymhwyster yn berthnasol i'r swydd, yn achos llawer o arholiadau, gellir cael tystysgrifau newydd drwy fyrddau arholi. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael prawf drwy gysylltu â'r sefydliad academaidd perthnasol. Os bydd yr ymdrechion hyn yn methu, yn y pen draw bydd yn rhaid i'ch rheolwr recriwtio arfer disgresiwn a phenderfynu a yw am barhau â'r apwyntiad yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo.

Byddwch yn derbyn e-bost gennym ar ôl i'ch gwiriadau cyn cyflogaeth gael eu cwblhau'n foddhaol. Bydd eich rheolwr recriwtio hefyd yn cysylltu â chi i gytuno ar ddyddiad dechrau a thrafod yr holl drefniadau eraill yn barod i chi ymuno â'r tîm!

Llwythwch mwy