Pecyn Cymorth Seilwaith Gwyrdd a Glas o dan Arweiniad y Gymuned
Mae llawer o asedau o werth cymunedol yn cyfrannu at rwydwaith y Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) yn Sir Gaerfyrddin. Er eu bod yn ganolfannau pwysig ar gyfer llesiant cymdeithasol, mae safleoedd fel parciau cyhoeddus, mannau gwyrdd a chyfleusterau tyfu bwyd yn y gymuned hefyd yn helpu i fodloni anghenion a buddiannau'r genhedlaeth bresennol, yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd, natur a'r economi er budd cenedlaethau'r dyfodol. Ceir cyswllt annatod rhwng asedau cymunedol a seilwaith gwyrdd a glas a datblygu cynaliadwy, a rhaid ystyried hynny wrth hyrwyddo egwyddorion creu lle.
Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi trosolwg o’r ystyriaethau sydd eu hangen er mwyn i grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector a Chynghorau Tref a Chymuned fel ei gilydd gymryd rhan yn y broses o ddiogelu, rheoli a chreu SGG ar raddfa'r gymdogaeth. Fel pecyn cymorth, gellir defnyddio’r adnodd hwn fel man cychwyn i’r rhai sydd am ddarparu SGG o dan arweiniad y gymuned yn eu hardal leol. Ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel adnodd hollgynhwysol. Er bod yr adnodd hwn wedi canolbwyntio'n benodol ar ddarparu asedau SGG ar raddfa'r gymdogaeth, gall hefyd fod yn fuddiol i rai sy'n ceisio darparu asedau cymunedol yn fwy cyffredinol.
Mae dau sefydliad allweddol y cyfeirir atynt drwyddi draw, mae ganddynt nifer o adnoddau a gwasanaethau helaeth sy'n gysylltiedig â sefydlu mannau gwyrdd sy'n debygol o fod o gymorth mawr i'r rhai sy'n ceisio sefydlu man newydd:
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru
Y Cefndir
Mae SGG yn cyfeirio at y rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas sydd ymhleth mewn ardaloedd trefol, lled-drefol a gwledig. Mae ganddo gryfderau sylweddol o ran lleihau heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy wella'r defnydd o dir yn gynaliadwy a rheoli pwysau sy'n gwrthdaro'r naill a'r llall. Gall asedau SGG amrywio'n sylweddol ond gallant gynnwys gerddi, mannau chwarae, rhandiroedd, perllannau a gwrychoedd
Mae gan ymglymiad cymunedol ran hollbwysig yn llwyddiant asedau o'r fath. Mae'r llwyddiant hwnnw'n dibynnu ar ddealltwriaeth ac ar ddylunio'r asedau mewn modd sy'n bodloni anghenion y cymunedau y bwriedir iddynt eu cefnogi. Gall SGG o dan arweiniad y gymuned ddarparu nifer o fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys annog cymunedau i gymryd rhan yn y broses benderfynu; cydlyniant cymdeithasol, creu lleoedd, a gwarchodaeth cymunedol gryfach drwy wirfoddoli gweithgar.
Sefydlu Man Cymunedol
Ymgysylltu ac Ymgynghori
Dylid creu pob SGG dan arweiniad y gymuned ochr yn ochr ag ymgysylltu'n rhagweithiol â'r gymuned leol. Mae hyn yn sicrhau bod ymdeimlad o gyd-berchnogaeth i'r lle, a'i fod yn cael ei greu'n bwrpasol i fodloni anghenion y rhai a fydd yn ei ddefnyddio.
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)Cynllunio a Llywodraethu
Ystyriaethau Allweddol
Ceir rhai elfennau allweddol y mae'n rhaid eu hystyried wrth ystyried darparu SGG o dan arweiniad y gymuned. Yng Ngham 2, mae’n hanfodol sefydlu gweithgor craidd er mwyn helpu i weithredu'r prosiect. Bydd angen i’r gweithgor gytuno ar y canlynol yn fuan:
- Ffordd hygyrch o gyfathrebu. Gallai hyn gynnwys negeseuon e-bost, WhatsApp, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, neu gyfuniad o nifer o ddulliau.
- Beth fydd amcanion cyffredinol y grŵp a'r gofod dilynol?
- Buddiolwyr y safle, sut y byddant yn ymgysylltu a sut y bydd y gofod yn cael ei hyrwyddo?
- Sut y bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei storio a'i rheoli'n ddiogel?
- Sut fydd y prosiect yn cael ei ariannu? Faint sydd ei angen?
- Sut y bydd y safle'n cael ei reoli a'i gynnal yn y dyfodol. Gofynnwch i chi'ch hun, a fydd angen cyllid parhaus arno? A fydd angen gwirfoddolwyr? Sut y bydd unrhyw atgyweiriadau neu offer newydd yn cael eu hariannu?
- Sut fyddwch chi'n sicrhau tegwch? Er enghraifft, os oes tyfu cymunedol, sut y bydd cynhyrchu yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal? Sut fyddwch chi'n lleihau gwastraff gwastraff yn gynaliadwy? A ellir rhoi cynnyrch dros ben i elusen leol? A oes cyfleoedd i hwyluso dosbarthiadau coginio neu rannu gwybodaeth?
Cael Lle
Nodi a Sicrhau'r Safle
I rai, gall nodi a sicrhau'r safle fod ymhlith agweddau mwyaf heriol y prosiect. Fodd bynnag, i eraill mae'n bosib mai canfod safle a sbardunodd y syniad cychwynnol i'r prosiect.
Wrth chwilio am dir, bydd angen ichi ystyried i ddechrau a ydych yn ceisio ei brynu neu ei brydlesu. Ar ôl penderfynu ynghylch hyn, efallai y bydd y fuddiol ichi ofyn i'r gymuned gyfagos a ydynt yn gwybod am unrhyw dir a allai fod yn addas. Gallai hyn gynnwys siarad â thirfeddianwyr neu fusnesau lleol. Gallai hefyd fod yn fuddiol cysylltu â phrosiectau/sefydliadau eraill sy'n cynnal ymyriadau tebyg o fewn y sir, oherwydd gallent hwy fod yn ymwybodol o dir sydd ar gael.
Mae gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol adnoddau ar sut i ddod o hyd i dir.
Os ydych yn nodi safle ond heb wybod pwy sy'n berchen ar y tir, gallwch chwilio am wybodaeth tir ac eiddo.
Os ydych chi'n bwriadu defnyddio tir sy'n eiddo i'ch Cyngor Tref neu Gymuned lleol, byddai'n well cysylltu â'r Cyngor hwnnw i ddechrau i ganfod a fyddai ganddo ddiddordeb mewn gwerthu'r tir neu ei roi ar brydles. Sylwch y gall tir o'r fath fod yn destun cyfyngiadau, ac y gallai rheolau gyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud â'r tir, yn dibynnu ar y modd y cafodd ei sicrhau a'r amodau'n gysylltiedig â'r tir. Am dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gaerfyrddin ewch at ein gwefan sydd â nifer o adnoddau gan gynnwys gwybodaeth ynghylch trosglwyddo asedau cymunedol.
Os byddwch yn canfod safle yr hoffech chi ei brydlesu, bydd angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn llofnodi'r math cywir o brydles, a'i bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn rhoi sicrwydd i chi ynghylch y defnydd o'r tir, ac yn rhoi sicrwydd i'r tirfeddiannwr ynghylch yr hyn sydd wedi'i gytuno. Gall fod yn fuddiol ceisio cyngor cyfreithiol. Am wybodaeth bellach ewch at Ganllaw Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar brydlesau.
Wrth chwilio am safle priodol, mae'n bwysig ystyried yr angen am gynllunio. Mae’n bosibl y bydd gan rai safleoedd gyfyngiadau sy’n atal adeiladu, felly bydd angen i chi feddwl yn ofalus am y safle a'r math o seilwaith efallai y byddwch am ei gynnwys yn gynnar yn y broses.
Cofrestru Tir fel Maes Tref neu Bentref
Nad oes gan Gymru ddynodiad ar gyfer Asedau o Werth Cymunedol.Fodd bynnag, mae peth tir yn gymwys i'w ddiogelu fel Maes Tref neu Bentref Gall cofrestri diogelu tir rhag cael ei ddatblygu, a chreu hawl i fynediad agored a hamdden.
Efallai y bydd ffioedd yn gysylltiedig â chofrestru tir comin. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Tir Comin Sir Gaerfyrddin ar ein gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar gwblhau cais i gofrestri tir fel Meysydd Tref neu Bentref.
Mae gan y Gymdeithas Mannau Agored hefyd ganllaw cam wrth gam ar sut i benderfynu a yw lle yn gymwys i’w gofrestru a’r broses ymgeisio.
Dylunio Mannau Cymunedol
Ar ôl ichi sicrhau'r tir a chael dealltwriaeth lawn o'r safle, gallwch ddechrau dylunio'r lle..
Pan yn datblygu dyluniadau, efallai y bydd angen ichi ystyried yr agweddau canlynol:
- Deunyddiau
- Draenio
- Hygyrchedd
- Plannu
- Dylunio ar gyfer Bioamrywiaeth
- Glanweithdra a Rheoli Gwastraff
- Ardaloedd Cysgodol
Caniatâd Cynllunio
Ar ôl dechrau dylunio eich dyluniau a chael syniad o’r math o elfennau y gallech fod am eu cynnwys, bydd angen ichi gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio. Bydd yr angen am ganiatâd cynllunio neu beidio yn ddibynnol ar raddfa’r newidiadau, defnydd cyfredol y safle a lleoliad y prosiect.
Sylwch fod yr adran ganlynol wedi’i chreu i roi trosolwg o bolisi cynllunio ar adeg ysgrifennu’r pecyn hwn, ac nad yw’n hollgynhwysol. Gallai’r sefyllfa newid, a dylid gwirio hynny’n uniongyrchol â’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) neu weithiwr cynllunio proffesiynol.
Mae FFermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi paratoi adnoddau ar y testun yma:
Mae enghreifftiau o ystyriaethau cynllunio posibl sy'n gysylltiedig ag asedau SGG:
Adnoddau a chefnogaeth
Ceir nifer o adnoddau i gefnogi cymunedau. Mae'r tabl canlynol yn tynnu sylw at yr adnoddau y cyfeiriwyd atynt yn yr adrannau uchod, ynghyd ag adnoddau ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol.
Gwybodaeth i Grwpiau Cymunedol
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
Y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru
Information for Allotment Holders and Association
Cymdeithas Genedlaethol y Rhandiroedd
Information for Community Growing Groups
Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol, CLAS Cymru
Yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol
Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Pecyn Adnoddau Tyfu Bwyd yn y Gymuned Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Cymdeithas Genedlaethol y Rhandiroedd
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Funding Opportunities
Biwro Cymunedol Sir Gaerfyrddin
Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Other resources
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Rhestr Wirio Gryn
Nodi'r angen am le penodol.
Ffurfio grŵp craidd o bobl i weithio tuag at greu’r lle a chytuno ar y strwythur llywodraethu.
Ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl i sicrhau bod y math o le a’r dyluniad yn adlewyrchu dymuniadau’r gymuned.
Canfod safle priodol.
Siarad â pherchennog y tir a chytuno ar yr opsiwn yr hoffech chi fwrw ymlaen ag ef.
Paratoi a thrafod cytundeb prydles neu baratoi i brynu'r tir.
Agor cyfrif banc a phrynu yswiriant.
Ceisio cyllid os oes angen.
Dylunio'r lle mewn cydweithrediad â'r gymuned.
Canfod a oes angen caniatâd cynllunio, cyfathrebu â'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a chael caniatâd.
Cydlynu a chyflawni gwaith ar y safle.
Trefnu gwaith cynnal a chadw a goruchwyliaeth dros y safle ar gyfer y tymor hir.
Agor y safle yn swyddogol i'r gymuned.
Adolygu llwyddiant y safle yn rheolaidd a nodi unrhyw feysydd i'w gwella.