Trosglwyddo asedau i’r gymuned

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Trosglwyddo Asedau i’r Gymuned yw trosglwyddo tir neu adeiladau o feddiant y Cyngor i stiwardiaeth a / neu berchnogaeth sefydliad lleol. Rydym yn credu mai amcan sylfaenol trosglwyddo asedau i’r gymuned yw rhoi mwy o reolaeth i bobl a grwpiau cymunedol lleol ar ddyfodol eu hardal a’u cymuned.

Yn aml, cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i reoli cyfleusterau yn eu hamgylchedd lleol. Maent yn defnyddio nifer helaeth o wirfoddolwyr, ac mae eu gwybodaeth leol a’u rheolaeth ymarferol ar yr ased yn debygol o sicrhau gwell gwerth am yr arian, yn ogystal â defnydd dwysach o’r ased.

Mae perchenogaeth a rheolaeth gymunedol ar asedau yn rhoi grym i gymunedau lleol, yn rhoi'r awenau i sefydliadau lleol, yn hybu balchder bro, yn gwella'r amgylchedd lleol ac yn cynyddu'r dyheadau sydd gan bobl. Hoffwn weithio gyda grwpiau sydd â diddordeb i helpu â’r broses trosglwyddo asedau a, lle bo hynny’n bosibl, helpu i sicrhau cyllid.

Rydym yn cydnabod bod sut mae ein asedau ffisegol yn cael eu rheoli yn gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar gryfder tymor hir cymunedau lleol a’r trydydd sector yn fwy cyffredinol.

Trwy berchenogaeth neu reolaeth ar asedau, mae grwpiau cymunedol yn gallu tyfu a bod yn fwy diogel, gan gyrchu ffynonellau buddsoddi ychwanegol fedrwn ni ein hunain eu cyrchu o bosibl.

Mae grwpiau cymunedol yn bartneriaid allweddol wrth gyflwyno gwasanaethau, ac yn darparu dolen hanfodol â phobl leol. Gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ein helpu i gyflawni rhai o ganlyniadau ein Strategaeth Gymunedol Integredig a helpu i hyrwyddo lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y Sir.

Er mwyn trosglwyddo asedau’n llwyddiannus, bod partneriaeth hirdymor yn angenrheidiol  rhyngddom ni a'r grwpiau cymunedol y mae'r rheolaeth ar ased yn cael ei throsglwyddo iddynt.

Yn 2010/11 cynhaliom yr Awdurdod adolygiad cynhwysfawr o’i asedau a chynnal seminarau gyda grwpiau lleol a chynghorau tref a chymuned mewn amrywiol rannau o’r Sir. O ganlyniad cynhaliwyd rhaglen barhaus o resymoli, ac fel rhan o’r broses hon, rydym wedi nodi adeiladau a deiliannau tir sydd ar hyn o bryd yn ddiangen, neu a allai fod felly.

Trwy drafodaeth gydag amrywiol sefydliad, rydym hefyd yn ymwybodol o eiddo y gellid eu rhedeg a’u rheoli gan grwpiau cymunedol, Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau lleol eraill. 

Bydd yr asedau hynny y nodwyd eu bod, neu y nodir yn y dyfodol eu bod yn ddiangen o ran ein gofynion Sir, yn parhau i gael eu gwaredu yn unol â’r polisïau presennol, a ddisgrifir yn yr Adran nesaf.

O ystyried y pwysau ariannol ar y sector cyhoeddus, rhagwelir y bydd angen darparu nifer o wasanaethau anstatudol mewn gwahanol ffyrdd, a disgwylir y bydd darparu’r gwasanaethau hyn (a’r asedau y mae eu hangen i’w darparu) gan sefydliadau cymunedol yn chwarae rhan sylweddol yn y broses o leihau costau yn y dyfodol.

Rydym wedi mabwysiadu polisi eisoes ar gyfer gwaredu eiddo diangen o ganlyniad i’r rhaglen moderneiddio ysgolion, ond bellach defnyddir yr egwyddorion hynny ar gyfer ei holl asedau:

  • Lle nodir bod ein hasedau yn ddiangen, byddant fel arfer yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored.
  • Mewn amgylchiadau eithriadol gall fod yn briodol ystyried defnydd cymunedol o’r eiddo. Ni fyddai defnydd o’r fath yn cael ei gymeradwyo ond petai angen amlwg a chlir am y defnydd hwnnw yn yr ardal a Chynllun Busnes ar gael sy’n dangos bod y defnydd amgen yn ddichonadwy - yn yr ystyr bod cyllid cyfalaf ar gael i dalu am unrhyw gostau addasu / adnewyddu, a hefyd o ran sicrhau cyllid refeniw parhaus i'r prosiect.
  • Hefyd wrth asesu unrhyw gais o dan y polisi eithriadau hwn, bydd angen nodi a ellir diwallu unrhyw ofynion mewn modd rhesymol mewn cyfleusterau eraill sy'n gwasanaethu'r gymuned (e.e. ysgol estynedig newydd arfaethedig, neuaddau cymuned lleol, mannau chwarae, meysydd hamdden, tafarndai, eglwysi ac ati).
  • Lle bo ased diangen yn cael ei osod neu ei werthu at ddefnydd cymunedol, byddai'r defnydd o'r eiddo'n cael ei gyfyngu i ddefnydd cymunedol yn unig.  Gellir ystyried defnyddiau masnachol yn ogystal, yn amodol ar ddefnyddio’r cyllid a godwyd i gefnogi gweithgareddau cymunedol. Byddwn yn gallu dewis ail-brynu am y pris prynu gwreiddiol petai'r defnydd cymunedol yn dod i ben, neu pe na bai'r adeilad yn cael ei ddefnyddio am 6 mis neu ragor.
  • Bydd yr holl geisiadau am i asedau diangen fod ar gael at ddefnydd cymunedol yn cael eu gwerthuso gan Bennaeth Eiddo Corfforaethol mewn ymgynghoriad â'r penaethiaid adrannol priodol. Wedi’r arfarniad hwn, byddai telerau unrhyw waredu arfaethedig at ddibenion cymunedol fel arfer yn dilyn gwerth y farchnad agored ar gyfer y defnydd cyfyngedig, ond yn cael ei benderfynu gan Bennaeth Eiddo Corfforaethol. Byddai angen cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol ar gyfer unrhyw waredu nad yw wedi digwydd ar y farchnad agored ac am lai na gwerth y farchnad.
  • O gytuno ar ddefnydd cymunedol, Byddwn yn cynnig cyngor a chymorth ar gyfer datblygu cymunedol, a mynediad at gyfleoedd cyllido ar gyfer cymorth dichonolrwydd/cynllunio busnes, ar sail debyg i grwpiau cymunedol eraill.

Seiliwyd ein gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo asedau i’r gymuned ar yr egwyddorion canlynol: 

  • Ni chymeradwyir trosglwyddo ond ar gyfer eiddo sy’n ofynnol er mwyn i wasanaeth barhau;
  • Rhaid i unrhyw achos arfaethedig o drosglwyddo ased hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol a/neu gynnal nodau a blaenoriaethau’r Awdurdod;
  • Byddwn yn annog cydweithredu rhwng grwpiau cymunedol a rhannu asedau er mwyn sicrhau’r gwerth cymdeithasol mwyaf a’r gwerth gorau am yr arian;
  • Trosglwyddir asedau i grwpiau cymunedol yn gyfnewid am gytundeb y grwpiau cymunedol i ddarparu manteision cytunedig i bobl leol;
  • Mae’r defnydd arfaethedig o’r ased yn wirioneddol er budd y gymuned, a byddai’n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i sefydliadau llwyddiannus ac annibynnol yn y sector cymunedol neu’r trydydd sector fod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir;
  • Byddai’r defnydd arfaethedig yn galluogi cymunedau i gael mwy o fynediad i gyfleoedd a/neu gyfleoedd sy’n ymateb i’w hanghenion lleol.

Croesawir mynegiannau o ddiddordeb gan unigolion, grwpiau o’r sector cymunedol a gwirfoddol neu Gynghorau Tref / Cymuned. Yn ddelfrydol dylai partïon â diddordeb fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Dylent gael eu harwain gan y gymuned a meddu ar gysylltiad cryf â'r gymuned leol. Rhaid i bobl leol fedru rheoli prosesau gwneud penderfyniadau’r sefydliad.
  • Rhaid taw eu prif bwrpas yw gwella'r gwasanaeth a ddarperir i'r gymuned leol.
  • Rhaid bod gan y sefydliad a'r unigolion allweddol sy'n rheoli'r ased a'r prosiect cysylltiedig sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd priodol er mwyn cynnal y prosiect yn y tymor hir.
  • Rhaid iddynt fod yn agored i ymagwedd gynhwysol at y gymuned ehangach, ac arddangos hynny.
  • Rhaid iddynt beidio â dyblygu gweithgareddau, gwasanaethau na chyfleusterau a ddarperir eisoes yn y gymuned leol.

Gallwch gwblhau ffurflen mynegiant o ddiddordeb ar-lein neu lawrlwythwch y ffurflen.

Fel arfer byddwn yn trosglwyddo ar sail prydles er mwyn sicrhau parhad defnydd. Mewn achosion lle daw’r defnydd i ben, byddai’r ased yn dychwelyd i’r Awdurdod.

Byddwn yn trafod gyda’r partïon sydd â diddordeb pa hyd o brydles fyddai’n fwyaf addas i ddiwallu anghenion a disgwyliadau’r grwpiau a’r bobl leol. Gall fod gan gyrff cyllido ofynion y mae’n rhaid eu bodloni os yw grŵp cymunedol i fod yn gymwys i dderbyn arian grant. Gall trosglwyddiadau rhydd-ddaliad fod yn briodol mewn amgylchiadau eithriadol e.e. gofynion ariannu penodol, ond byddai cymeradwyaeth y Cyngor yn ofynnol ar gyfer trosglwyddiad o’r fath.

Yn ystod cyfnod y brydles byddwn fel arfer yn disgwyl i’r sefydliad cymunedol fod yn gyfrifol am gostau rhedeg yr adeilad, gan gynnwys atgyweirio, gwaith cynnal a phob yswiriant.  Mae’r trafodaethau trosglwyddo a gynhaliwyd hyd yma weithiau wedi cynnig cymorth ariannol neu arall penodol yn y broses drosglwyddo, gan adlewyrchu’r categorïau penodol o eiddo sydd i’w trosglwyddo. Er y bydd y broses werthuso’n gyson, mae’n debygol y bydd materion penodol yn codi yn achos pob cais. Bydd pob cais, felly, yn derbyn sylw unigol. 

Byddwn yn rhannu gydag unrhyw bartïon sydd â diddordeb yr holl wybodaeth sydd ar gael ynghylch cyflwr a chostau gweithredu unrhyw ased y gellir ei throsglwyddo. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwn yn barod i fuddsoddi peth arian tuag at wella cyflwr yr ased sy’n cael ei drosglwyddo. Fodd bynnag, bydd disgwyl i’r sefydliad cymunedol fodloni’r Awdurdod y byddant yn gallu cynnal yr adeilad yn foddhaol ar ôl ei drosglwyddo. Byddai angen i lefel unrhyw gyfraniad (os o gwbl) fod yn gymesur â’r manteision cymunedol tebygol yn y dyfodol yn sgil trosglwyddo’r ased, gan roi sylw i gyflwr presennol yr ased a’i oes economaidd debygol. Dylid nodi bod ein cronfeydd yn gyfyngedig, ac na fydd cyfraniadau ar gael ym mhob achos. Bydd disgwyl i unrhyw grŵp sy’n dod yn gyfrifol am ased chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o sicrhau bod yr ased mewn cyflwr da a’i gadw felly. 

Byddwn yn annog cydweithredu rhwng grwpiau cymunedol a rhannu asedau er mwyn sicrhau’r gwerth cymunedol mwyaf a’r gwerth gorau am yr arian.

Gall grwpiau cystadleuol fod â diddordeb yn yr un ased. Mewn achosion o’r fath byddwn yn disgwyl i grwpiau cymunedol gydweithio a threfnu eu hunain yn y fath fodd fel bod yr ased yn cael ei rannu a’i ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl rhyngddynt. Os na chytunir ar ddull o gydweithio, byddwn yn pwyso a mesur rhinweddau cynigion y gwahanol sefydliadau ac yn penderfynu i ba grŵp (os o gwbl) y dylid trosglwyddo’r ased. Gall methiant sefydliadau cymunedol cystadleuol sydd â diddordeb i drefnu i gydweithio olygu ei fod yn llai tebygol y bydd modd cyflawni unrhyw gynnig derbyniol ar gyfer trosglwyddo asedau. Gall fod gan Gynghorau Tref neu Gymuned rôl mewn achosion o’r fath i chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o reoli’r ased ar ran nifer o ddefnyddwyr. 

Fel arfer byddai’r trosglwyddiad yn digwydd ar sail gwerth marchnad y defnydd arfaethedig o’r ased, ond byddai trosglwyddiad ar lefel o dan werth y farchnad yn cael ei ystyried fel rhan o’r achos busnes.

Rydym wedi sefydlu tîm trawsadrannol o swyddogion i ddelio gyda cheisiadau am drosglwyddo, a chydlynir y gwaith hwnnw gan yr Is-adran Eiddo Corfforaethol. Bydd angen i unigolion, grwpiau neu Gynghorau Tref/Cymuned sy’n gwneud cais am drosglwyddo asedau nodi’r canlynol:

  • Cynigion ar gyfer defnyddio’r ased a’i gynnal
  • Y manteision i’r Awdurdod, y grŵp cymunedol a’r gymuned ehangach, ynghyd â’r canlyniadau a gynlluniwyd
  • Ystyried a oes unrhyw wrthdaro/orgyffwrdd â chyfleusterau eraill tebyg yn yr ardal leol, ac a fydd hynny’n parhau
  • Gallu’r grŵp(iau) cymunedol i reoli’r ased (a’i yswirio)
  • Rhyw fath ar gynllun busnes, y bydd ei fanylion yn adlewyrchu graddfa’r ased sy’n cael ei drosglwyddo
  • Strwythur llywodraethu cymunedol (sut bydd pobl leol yn rhan o’r penderfyniadau a wneir ynghylch yr ased a’i ddefnydd)
  • Tystiolaeth o’r gefnogaeth ariannol ar gyfer datblygu yn y dyfodol
  • Mathau o atebolrwydd, a sut yr ymdrinnir â’r rhain

Rydym yn awyddus i Drosglwyddo Asedau i’r Gymuned lwyddo yn Sir Gaerfyrddin, a bydd yn darparu cyfarwyddyd a chymorth gan ei swyddogion i grwpiau cymunedol i helpu ymgeiswyr trwy’r broses drosglwyddo. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r broses y bydd yr Awdurdod yn ei dilyn pan wneir cais am drosglwyddo ased: 

Cam Pwy sy'n gyfrifol Amserlen

Cyflwyno mynegiant o ddiddordeb i'w ystyried

Grŵp Cymunedol  
Arfarnu'r ffurflen gais a chyflwyno argymhellion Tîm Trosglwyddo Asedau 6 wythnos
Cyflwyno'r cynllun busnes (os bernir bod angen hynny) Grŵp Cymunedol I'w chytuno, yn dibynnu ar yr amgylchiadau
Arfarnu'r cynllun busnes (os bernir bod angen hynny) Tîm Trosglwyddo Asedau 6 wythnos
Penderfyniad ynghylch a ddylid symud ymlaen gyda’r trosglwyddiad (bydd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol/yr Aelod Lleol yn ymwneud â hyn yn ôl y galw) Tîm Trosglwyddo Asedau 6 wythnos
Cytuno ar delerau manwl a chwblhau’r trosglwyddiad Tîm Trosglwyddo Asedau 12 wythnos

Addasiadau i’r amserlen ddangosol uchod:

  1. Mae’r amserlenni hyn yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd. Byddant yn cael eu monitro, a lle na wneir cynnydd digonol, gallwn dynnu’n ôl o’r broses drosglwyddo a gwaredu’r ased yn unol â’i Bolisi Gwaredu. Byddwn yn barod i ystyried ceisiadau rhesymol am estyn yr amser i hwyluso cynigion.
  2. Er bod disgwyl i grwpiau cymunedol ddilyn eu cyngor eu hunain, Byddwn yn ceisio’u helpu a’u cefnogi fel sy’n briodol ar hyd y broses o wneud cais. Byddwn yn darparu adnoddau priodol i roi’r gefnogaeth honno ac i arfarnu ceisiadau o fewn yr amserlenni targed. Yn gyfnewid am hynny mae’n disgwyl y bydd ceisiadau am drosglwyddo yn cynnwys, ym mhob cam, wybodaeth ddigonol i ganiatáu cwblhau arfarniadau a gwneud penderfyniadau.
  3. Bydd ein hasesiad o gais am drosglwyddo ased ac unrhyw benderfyniad dilynol i symud ymlaen yn rhoi sylw i gyflwr ffisegol yr adeilad, argaeledd safleoedd eraill addas y gellid cynnal y gweithgareddau arfaethedig ynddynt, a’r gefnogaeth y bydd ei hangen wrthom os yw’r trosglwyddiad i fynd rhagddo.
  4. Lle nad oes fawr ddim tebygolrwydd, neu ddim o gwbl, y bydd grŵp cymunedol yn derbyn cyfrifoldeb am adeilad neu ddarn o dir a nodwyd ar gyfer ei drosglwyddo, ac ni fernir ei fod yn ddichonadwy i ni barhau i’w gynnal, fel arfer ystyrir gwaredu’r ased, yn unol â Pholisi Gwaredu’r Awdurdod

Cyflwyno mynegiant o ddiddordeb Chwilio eiddo ar werth / i'w osod