Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Mae Fferm Wynt Mynydd y Betws yn brosiect ynni adnewyddadwy sydd wedi’i ddatblygu ac sy’n cael ei weithredu gan Cambrian Renewable Energy Ltd (CREL), sef is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr ESB (Electricity Supply Board).  Mae’r prosiect wedi’i leoli mewn ardal o dir comin yn yr ucheldir a elwir Mynydd y Betws yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru. Dechreuodd y Fferm Wynt weithredu’n fasnachol yn 2013. Mae Fferm Wynt y Betws wedi ymrwymo i ddarparu cronfa cymorth cymunedol er budd cymunedau ger Fferm Wynt Mynydd y Betws dros gyfnod o 25 mlynedd.

Rydym yn rheoli’r Gronfa Budd Cymunedol ar ran Fferm Wynt y Betws ar gyfer ardaloedd sy’n gymwys i gael cyllid o gronfa Sir Gaerfyrddin. Mae cronfa debyg mewn wardiau cymwys yng Nghastell-nedd Port Talbot. I gael rhagor o fanylion ynghylch eu cronfa nhw, ffoniwch 01639 763390.

Atebwch fwy o gwestiynau i ffeindio allan os ydych chi'n gymwys i dderbyn arian.

A fydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno mewn un o'r meysydd canlynol?

Rhydaman, Betws, Garnant, Glanaman, Llandybie, Pontaman, Penygroes, Saron, Tycroes, Cwarter Bach