Cronfa'r Degwm
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023
The Carmarthenshire Welsh Church fund supports projects that address one of the following themes:
- Hyrwyddo addysg
- Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf, ac ati.
- Lleihau tlodi
- Hyrwyddo crefydd
- Dibenion eraill sy’n llesol i’r gymuned
Rydym yn derbyn ceisiadau ar sail dreigl. Gall un o'n tîm eich cefnogi chi i ddatblygu'ch prosiect a chwblhau ffurflen gais. Rhaid cyflwyno pob prosiect yn Sir Gaerfyrddin.
Ni ddyfernir grantiau i:
- Prosiectau sydd wedi dechrau cyn i ni dderbyn ffurflen gais.
- Gwaith sy'n destun hawliad yswiriant.
- Ymgeiswyr lle mae cyfrifoldeb arall gan Bwyllgor arall neu'r Cyngor i gefnogi gweithgareddau o'r fath.
- Sefydliadau / unigolion y mae eu cynigion yn cynnwys adeiladu cyfleusterau bar trwyddedig.
- Cynghorau sy'n gymwys i gael praesept yn eu hawl eu hunain
- Cymdeithasau gefeillio
- Cyrff a apeliadau a ariennir gan y Llywodraeth Genedlaethol mewn cysylltiad â'r pwrpas y sefydlir cyrff o'r fath
Atebwch rai cwestiynau i ddarganfod lefel yr arian y gallwch wneud cais amdano.