Cynaliadwyedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Mae popeth a wnawn, fel unigolion neu fel rhan o'n cymuned neu weithle, yn cael effaith ar y byd o'n cwmpas. Mae i'r holl ddewisiadau a wnawn yn ein bywyd pob dydd oblygiadau ar gyfer ansawdd ein bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys y pethau a brynwn, sut rydym ni'n teithio, y bwyd rydym ni'n ei fwyta a'n defnydd o ynni a dŵr. Petai pawb yn y byd yn byw yn y ffordd mae pobl yng Nghymru ar gyfartaledd yn byw yna byddem angen 3 o blanedau'r Ddaear i'n cynnal.

Mae'n rhaid inni ystyried ffyrdd o leihau ein heffaith ar y blaned. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fyw mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy. Fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cymuned, eich sefydliad a'ch amgylchedd drwy wneud mwy o benderfyniadau cynaliadwy a chymryd camau mewn meysydd allweddol.