Beth allwch chi ei wneud?
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023
Er mwyn i'ch cymuned ddod yn fwy cynaliadwy, mae'n bwysig cynnwys cynifer o aelodau o'ch cymuned â phosibl wrth gynllunio'r hyn yr ydych am ei wneud yn eich ardal leol.
Isod mae rhai syniadau ynghylch ffyrdd y gallwch gydweithio ag eraill yn eich cymuned er mwyn dod yn bentref neu'n dref fwy cynaliadwy:
- Sefydlu rhandir cymunedol ar gyfer tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun
- Trefnu sesiynau codi sbwriel cyson er mwyn tacluso ardaloedd neu er mwyn gwella a chynnal a chadw ardaloedd bywyd gwyllt lleol
- Trefnu cyfnewidfeydd i leihau gwastraff - beth am drefnu digwyddiad hwyl a chyfnewid eich dillad diangen, celfi, bric-a-brac ac ati?
- Prynu'n lleol
- Sefydlu clwb tanwydd er mwyn arbed arian ar eich biliau ynni
- Sefydlu clwb rhannu lifft er mwyn lleihau allyriadau carbon
- Compostio cymunedol
- Cynnal gweithgareddau er mwyn gweithio gyda'r gymuned ehangach, er enghraifft cynnwys ysgolion lleol a phobl ifanc neu gysylltu â digwyddiadau mewn pentrefi neu drefi eraill
- Neilltuo cyfrifoldebau a dyletswyddau i aelodau penodol o'r gymuned a/neu benodi wardeiniaid
- Mabwysiadu safle ailgylchu - helpu i gadw'r llecyn yn lân ac yn daclus, rhoi gwybod am unrhyw broblemau, rhoi gwybod i'r Cyngor os yw'r biniau ailgylchu yn llawn a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch ailgylchu. Yn ogystal bydd y grŵp yn derbyn taliad unwaith yn unig i'w ddefnyddio er budd y gymuned leol.
- Cyfarfodydd effeithlonrwydd ynni cartref – cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a threfnu i ymgynghorydd ynni cartref y Cyngor fod yn bresennol
- Ystyried a allwch fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy ar gyfer eich neuadd gymunedol
- Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd drwy ddefnyddio placiau, hysbysfyrddau, byrddau deunydd esboniadol a theithiau cerdded ag arwyddion.
Gallwch hefyd gwneud newidiadau syml yn eich bywyd bob dydd.
- Beicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle gyrru
- Gosod casgen ddŵr ar gyfer rhoi dŵr i flodau a golchi'r car
- Prynu'n lleol neu dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun ble bynnag y gallwch - mewn gerddi, ar siliau ffenestri, ar falconïau, mewn hen fasgedi
- Cael biniau ar wahân yn y cartref ac yn y gweithle er mwyn sicrhau bod ailgylchu'n hawdd ac yn syml
- Coginio llawer ar y tro i arbed arian, amser ac ynni
- Mynd ati i waredu pethau a helpu achos da drwy roi eich eitemau diangen i siopau elusennol/cyfnewidfeydd
- Gofyn am Archwiliad Ynni Cartref gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (0300 123 1234) - gallech arbed llawer o arian
Mae llawer o bobl a chymunedau ar draws y sir wedi datblygu prosiectau arloesol i warchod yr amgylchedd ac arbed adnoddau. Mae nifer o’r prosiectau yma wedi eu rhestri yn ein Cyfeirlyfr Cymunedol.
Gwybodaeth Gymunedol
Rhandiroedd a Chyfleoedd Tyfu Cymunedol
Biwro
- Fideo Biwro
- Cronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol
- Urddas Mislif
- Cefnogaeth Tlodi
- Mentrau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Bwyd Sir Gâr Food
Mwy ynghylch Gwybodaeth Gymunedol