Cymunedau gwledig
Mae ein cymunedau ac economïau gwledig - sy'n cael eu hybu gan sector amaethyddol cryf - yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant Sir Gaerfyrddin. Gan gydnabod cryfder a phwysigrwydd y cymunedau hyn, rydym yn cyflwyno strategaeth eang a ddatblygwyd yn benodol i ganolbwyntio ar ein hardaloedd gwledig. Nod 'Symud Sir Gaerfyrddin Wledig Ymlaen' yw cryfhau economïau lleol, creu swyddi a chyfleoedd busnes a diogelu'r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig. Bydd yn datblygu wrth i fwy o bobl a busnesau lleol gymryd rhan. Wrth wraidd y cynllun mae:
- pwyslais ar greu swyddi a chyfleoedd busnes
- cymhellion i bobl ifanc i'w helpu i fyw a gweithio'n lleol
- defnydd arloesol o adeiladau gwag neu adeiladau amaethyddol diddefnydd ar gyfer creu hybiau i entrepreneuriaid
- gwella darpariaeth band eang
- creu amgylchedd mwy cynaliadwy, gyda seilwaith newydd i gefnogi ymdrechion i leihau carbon
- wynebu'r heriau fydd yn cael eu creu yn sgil Brexit