Cysylltedd Digidol
Mae technoleg ddigidol yn sail i bron pob agwedd ar fyw'n fodern ar draws gwaith, teithio, hamdden ac iechyd, ac mae mynediad rhyngrwyd da bellach yn cael ei weld fel y '4ydd cyfleustod'. Mae cysylltedd cyflym a dibynadwy yn hanfodol i gefnogi twf busnes, helpu cymunedau gwledig i ffynnu, gwella iechyd a lles, a'i gwneud yn haws i bobl fynd ar-lein a chyrchu at wasanaethau cyhoeddus.
Diffiniad band eang cyflym iawn yw cysylltiad â'r rhyngrwyd sydd â chyflymder lawrlwytho o fwy na 30mb yr eiliad. Mae gan 86% o drigolion Sir Gaerfyrddin fynediad i fand eang cyflym iawn, ond 40% ohonynt yn unig sy'n manteisio ar hyn.
Bydd y lled band yn cynyddu yn eich cwmni, wrth i’ch gweithwyr ddefnyddio’u dyfeisiau yn fwy aml, felly bydd angen sicrhau bod gyda chi digon o led band er mwyn sicrhau na fydd y gwasanaeth yn cael ei arafu neu’i golli. Os ydych yn ansicr am yr hyn sydd orau i'ch busnes neu'r hyn sydd ar gael yn eich ardal, bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn eich helpu i wneud penderfyniad.
Mwy ynghylch Cysylltedd Digidol