Gwella eich band eang
Os ydych yn cael trafferth â'ch band eang, mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i'w wella. Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw cynnal prawf cyflymder. Bydd hyn yn dweud wrthych beth yw cyflymder eich band eang presennol. Pan fyddwch yn gwybod canlyniad eich prawf cyflymder, gallwch ei gymharu â'r hyn y gallech fod yn ei gael. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Ofcom. Pan fydd y prawf wedi gorffen, cliciwch ar y tab manylion i weld beth yw eich cyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol.
Rhedeg Prawf Cyflymder
Darganfod beth allech chi fod yn ei gael...
Pan fyddwch yn gwybod beth yw eich cyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol, gallwch ei gymharu â'r hyn y gallech fod yn ei gael. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r gwiriwr argaeledd band eang ar wefan Ofcom.
Er enghraifft, os yw'r prawf cyflymder yn dangos i chi mai 15 Mbps yw eich cyflymder lawrlwytho presennol, ond mae'r gwiriwr argaeledd band eang yn dangos y gallech fod yn cael hyd at 80 Mpbs, mae hyn yn golygu y gallech fod yn cael band eang cyflymach pe baech yn uwchraddio gyda'ch darparwr band eang.
Gwiriwr argaeledd Band eang