Pwy sy’n gallu cael cynnyrch?
Mae cefnogaeth ar gael i bob merch a menyw, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan pob ardal ar draws y sir adnoddau i'ch cefnogi a'u bod yn gallu darparu cynnyrch am ddim i chi.
Ble alla i gael cynnyrch?
Mae gan bob ysgol ar draws y sir gynnyrch i allu dosbarthu i ferched a menywod yn yr ysgol. Gallwch hefyd gasglu eich cynnyrch mislif am ddim o dros 50 o leoliadau ar draws y sir, gan gynnwys yr Hwbiau yn canol ein tair tref. Mae rhestr llawn o'n holl Bwyntiau Dosbarthu i'w gweld yma.
Pa gynnyrch sydd ar gael?
Mae amrywiaeth o gynnyrch ar gael, i siwtio anghenion pawb - tamponau, cwpanau mislif, nicyrs mislif a phadiau! Y nod yw i ddosbarthu fwy o amrywiaeth o nwyddau mislif gan gyfyngu ar effaith amgylcheddol negyddol llawer o nwyddau tafladwy e.e nwyddau ailddefnyddiadwy a / neu gynnyrch di-blastig.